Golygydd yn gwadu torri rheolau Deddf Troseddau Rhyw

  • Cyhoeddwyd
golygydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Thomas Sinclair yn gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn

Mae golygydd papur newydd wedi pledio'n ddieuog i gyhoeddi erthygl a oedd yn cynnwys manylion oedd debygol o'i gwneud hi'n amlwg pwy oedd wedi dioddef trosedd ryw.

Yn Llys Ynadon Llanelli, fe wadodd Thomas Sinclair, 37 oed o Aberdaugleddau, ei fod wedi torri rheolau'r Ddeddf Troseddau Rhyw 1992.

Mae Mr Sinclair, sy'n olygydd ar bedwar papur newydd yn y gorllewin, yn cael ei gyhuddo o gyhoeddi erthygl ym mhapur y Ceredigion Herald a oedd yn torri'r cyfyngiadau sy'n gwarchod dioddefwr trosedd rhyw rhag cael ei adnabod am oes.

Dywedodd ei gyfreithiwr, Matthew Paul wrth y llys nad oedd y wybodaeth yn yr erthygl yn "debygol" o ddatgelu'r dioddefwr i unrhyw un nad oedd yn ei nabod e/hi na'r diffynnydd yn dda, ac nad oedd pobl o fewn eu cylch agos wedi gwybod am yr amgylchiadau beth bynnag.

Roedd yna gwestiwn hefyd, meddai, am ystyr y gyfraith, a phr'un ai oedd yn cyfeirio at unigolion neu'r cyhoedd yn ehangach?

Bydd yr ynadon yn cyhoeddi eu dyfarniad ar 12 Mai.