Goleuadau yn ardal awyr dywyll Brycheiniog yn bryder
- Cyhoeddwyd
Mae goleuadau stryd mewn ardal awyr dywyll yn bryder i fudiad sy'n ymgyrchu i geisio atal llygredd golau.
Cafodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog statws gwarchodfa awyr dywyll ryngwladol yn 2013.
Mae'r statws yn gydnabyddiaeth ar gyfer ardaloedd sy'n nodedig am ansawdd eu nosweithiau serennog.
Ond cafodd goleuadau stryd LED eu rhoi yng Nghwm du, ger Rhaeadr Gwy, Powys gan Lywodraeth Cymru er mwyn "diogelwch gyrwyr a'r gymuned".
Effeithiau niweidiol
Mae Cymdeithas Ryngwladol Awyr Dywyll (IDA), sy'n rhoi statws gwarchodfa i wledydd ar draws y byd, yn dweud eu bod yn pryderu am hynny.
Nid oedd rhaid i Lywodraeth Cymru gael caniatâd gan awdurdod y parc cenedlaethol i osod goleuadau LED.
Dywedodd llefarydd Cymdeithas Ryngwladol Awyr Dywyll, John Barentine, ei fod yn pryderu am oblygiadau'r datblygiad.
"Mae'r llywodraeth yn gyffredinol wedi bod yn eithaf cefnogol o'r ymdrechion i gael gwarchodfeydd awyr dywyll ar draws Cymru a dyna pam bod gosod y goleuadau yng Nghwm du wedi ein drysu," meddai.
"Fe fydden ni yn hoffi gweithio gyda'r llywodraeth er mwyn dod o hyd i ffordd i leddfu unrhyw effeithiau niweidiol gan y goleuadau."
Does dim cynlluniau i beidio gadael i'r parc barhau i gael y statws gwarchodfa, ond dywedodd y bydden nhw'n cadw golwg ar y sefyllfa ym Mannau Brycheiniog a pharciau cenedlaethol eraill.
'Diogelwch y gymuned'
Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru bod y goleuadau wedi eu gosod er mwyn "diogelwch gyrwyr a'r gymuned".
Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod wedi gosod y goleuadau fel rhan o'i hymrwymiad i leihau ol troed carbon a'u defnydd o ynni.
"Doedd yna ddim bwriad i gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd ac fe fyddwn yn ystyried opsiynau fel pylu'r golau yng nghyffiniau gwersyll Cwmdu os nad oes yna unrhyw oblygiadau diogelwch," meddai llefarydd.