Awgrymu gwrthod darparu cyffur HIV 'effeithiol' i Gymru

  • Cyhoeddwyd
HIVFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Yr Alban yw'r unig wlad yn y DU sydd wedi cymeradwyo defnyddio Prep i daclo HIV hyd yn hyn

Mae corff rheoli cyffuriau'n dweud na ddylai'r gwasanaeth iechyd ddarparu cyffur gwrth-HIV "hynod effeithiol" oherwydd ei bris.

Dywedodd y corff sy'n cynghori Llywodraeth Cymru nad ydy'r tablet dyddiol Prep yn gost-effeithiol.

Daw hyn wythnosau wedi i gorff meddyginiaethau'r Alban gytuno i'w ddefnyddio.

Mae gwyddonwyr yn dweud bod dôs dyddiol o Prep o fudd i bobl sydd â risg uchel o gael y firws.

'Ansicrwydd a chyfyngiadau'

Pwrpas Prep - neu pre-exposure prophylaxis - ydy lleihau'r risg i bobl gael HIV, a'r syniad yw bod grwpiau risg uchel yn cael eu targedu cyn iddyn nhw gael eu heintio.

Mae grŵp o arbenigwyr HIV yng Nghymru eisoes wedi dweud ei fod yn "hynod effeithiol" pan yn cael ei ddefnyddio gyda'r grwpiau cywir.

Ond dywedodd Grŵp Strategaeth Meddyginiaeth Cymru Gyfan bod "ansicrwydd a chyfyngiadau" yn y model economaidd gafodd ei gyflwyno gan y cwmni cyffuriau.

Mynnodd y cwmni bod ganddyn nhw "achos cryf" o safbwynt meddygol ac economaidd. Yn ôl un amcangyfrif, fe fyddai'n costio £2.5m y flwyddyn.

'Methu cyfle'

Dywedodd Sarah Fuhrmann, o Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yng Nghymru bod "cyfle wedi'i fethu" i daclo'r "epidemig HIV" yng Nghymru.

Ychwanegodd y byddai gweithredu'r argymhelliad yn arwain at "loteri cod post" ar draws y DU.

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried yr argymhelliad ac yn gwneud datganiad cyn hir.