Digartrefedd: 'Angen i'r Eglwys wneud mwy' medd esgob
- Cyhoeddwyd
Dylai'r Eglwys ac eraill fod yn gwneud mwy i daclo digartrefedd a phroblemau tai cymdeithasol yng Nghymru yn ôl Esgob Llanelwy.
Dywedodd y Gwir Barchedig Gregory Cameron y byddai tua 300 o bobl ar draws y wlad yn cysgu ar y stryd yr wythnos hon yn unig.
Roedd yn siarad mewn cynhadledd yn Wrecsam, tref sydd ag un o'r cyfraddau uchaf o ddigartrefedd, meddai - tua naw ym mhob 20,000.
Mae cynghorau a Llywodraeth Cymru wedi addo adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy dros y pedair blynedd nesaf.
'Ddim yn dderbyniol'
Yn y gynhadledd yn Wrecsam ddydd Iau cafwyd trafodaeth ar ddefnyddio adeiladau eglwys oedd ddim yn cael eu defnyddio bellach fel tai cymdeithasol neu loches dros dro.
"Rhywsut dyw'r Eglwys yn ei chyfanrwydd ddim wedi mynd i'r afael â'r mater yma mor benderfynol ag y gallen nhw fod wedi," meddai'r Esgob Cameron.
"Mae'n rhywbeth y mae dim ond modd ei daclo os yw'r gymuned gyfan yn gweithio gyda'i gilydd i daclo achosion digartrefedd."
Mae Housing Justice Cymru eisoes yn gweithio gyda'r Eglwys yng Nghymru ym Mhen-y-bont, Merthyr Tudful ac Abertawe i droi tir sydd dros ben yn dai fforddiadwy.
Dywedodd cyfarwyddwr y sefydliad, Sharon Lee y gallai'r Eglwys chwarae rhan wrth gynorthwyo gyda'r 80,000 o bobl sydd ar restrau aros ar gyfer tai cymdeithasol.
"Ym mhob rhan o Gymru rydyn ni'n gweld cynnydd mewn digartrefedd a phobl yn cysgu ar y stryd," meddai Ms Lee.
"Yn yr 21ain Ganrif ddylai hynny ddim fod yn dderbyniol mewn gwlad fel Cymru."
Adeiladu mwy
Ym mis Ionawr cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £8m o gyllid tuag at daclo digartrefedd, a dywedodd llefarydd fod deddfwriaeth ddiweddar wedi atal 8,800 o deuluoedd rhag colli eu tai ers 2015.
"Rydyn ni'n adolygu ein polisïau yn ymwneud â chysgu ar y stryd a'r gefnogaeth sydd ar gael i daclo'r broblem yma, yn ogystal â siarad â sefydliadau er mwyn edrych ar gynlluniau fel cartrefi'n gyntaf," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau yn dechrau adeiladu mwy o dai fforddiadwy am y tro cyntaf ers blynyddoedd - gan gynnwys tai cyngor newydd yn Sir y Fflint am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.
"Bydd gwaith partneriaeth rhwng cynghorau a chymdeithasau tai yn parhau i sicrhau y byddwn ni'n cael llawer mwy o dai newydd," ychwanegodd.