Y Tŵr yn torri tir newydd
- Cyhoeddwyd
Mae drama Y Tŵr wedi cael ei chysylltu ers bron i 40 mlynedd gyda'r actorion cyntaf i'w pherfformio, John Ogwen a Maureen Rhys.
Ers hynny mae actorion fel Huw Garmon a Betsan Llwyd ac, yn fwyaf diweddar, Catherine Ayres a Steffan Donnelly wedi perfformio drama enwog Gwenlyn Parry.
Ond dau ganwr opera yw'r diweddaraf i gamu i'w sgidiau i bortreadu'r Dyn a'r Ddynes ar eu taith bywyd o gyfnod di-hid eu heieunctid hyd at ddiwedd eu hoes.
Y cyfansoddwr Guto Puw sydd wedi ysgrifennu opera Y Tŵr, dolen allanol, sy'n un o operâu gwreiddiol proffesiynol cyntaf y Gymraeg, tra mae Gwyneth Glyn wedi addasu'r geiriau gwreiddiol.
Caryl Hughes a Gwion Thomas yw'r ddau sy'n perfformio'r gwaith newydd.
"Oni ddim yn gwybod llawer am y ddrama ac yn dod ati o'r newydd," meddai Gwion Thomas. "Ond mae'n wych fel drama a fi'n credu bod yr opera yn rhoi rhyw lefelau eraill iddo sy'n ei wneud e'n ddiddorol dros ben.
"Oni ddim wedi gweld y ddrama ar deledu nac yn y theatr ac felly heb weld John Ogwen a Maureen Rhys yn actio'r ddrama ond fe ddaethon nhw i un o'r gweithdai," meddai.
"Roedden nhw wedi dod i weld perfformiad o'r act gyntaf ryw flwyddyn yn ôl ac maen nhw wedi bod yn bositif iawn am yr holl brofiad."
Her heneiddio
Un o heriau mwyf y perfformiad yw portreadu rhywun o'i arddegau hwyr i ddiwedd ei oes meddai Gwion.
"Mae mynd o ifanc i hen yn ddiddorol," meddai. "Dydw i ddim yn ŵr ifanc nawr, felly mae'n sialens i fod yn fachgen 16 neu 17 oed - mae lot o make up a wigs yn helpu!
"A gobeithio bod yr actio yn gwneud ei waith hefyd a thrio swnio'n ifanc yn y canu - rydw i wedi trio cael sut mae dyn yn cerdded ac yn canu yn y gwahanol gyfnodau.
"Ond hefyd mae e i gyd yn y gerddoriaeth gan Guto - mae'r gerddoriaeth yn hyfryd ac yn helpu'r naws."
"Y sialens fwyaf i fi," meddai Caryl "oedd chwarae rhywun ifanc. Rydan ni'n meddwl amdanyn yn eu harddegau hwyr yn yr act gyntaf yn syrthio mewn cariad ac yn dysgu pethau am ei gilydd a dysgu sut mae bod mewn perthnynas.
"Yn yr ail act rydan ni'n ganol oed ac wedi diflasu - ro'n i'n ffeindio hynna yn weddol hawdd, dwi ddim yn gwybod be mae hynny'n ddweud amdana fi!
"Ro'n i'n ffeindio mynd yn oedrannus yn haws nag oedd trio meddwl sut oeddwn i yn 16 neu 17 oed!
Peth arall sydd wedi bod yn anodd meddai Caryl ydy cyfleu oed y cymeriad yn y corff, a chanu yn operatig yr un pryd.
"Yn act tri, ti'n gorfod dod drosodd yn hen yn dy gorff heb fod yn gomic - ti'n gorfod bod yn ofalus bod o ddim yn amharu ar y canu."
Cerddoriaeth yn cyfleu y geiriau
Fe fydd Caryl a Gwion yn canu geiriau gwreiddiol Gwenlyn Parry yn yr opera ond mae llawer o'r ddrama wreiddiol wedi ei thorri neu ei haddasau gan Gwyneth Glyn a cherddoriaeth yn cymryd lle rhai golygfeydd.
"Mae darnau mawr o'r ddrama ei hun yn y sioe ond mae hi wedi ei haddasu gan Gwyneth Glyn," meddai Caryl.
"Mi fysan ni yma am saith awr tasa ni'n canu bob un dim sgwennodd Gwenlyn Parry felly mae Gwyneth Glyn wedi ei haddasu a thorri darnau ohoni i wneud iddi lifo.
"Mae Guto yn adnabod y ddrama yn dda felly roedd o'n sgwennu gwaith oedd yn siarad efo fo yn deillio o'r ddrama - pan ti'n clywed y miwsig mae'n gwneud i ti deimlo rhywbeth yn ddyfnach efallai na jyst geiriau.
"Mae 'na interlude reit hir mewn rhannau efo dim ond y gerddorfa sy'n portreadu'r 'tyllau' nad ydan ni'n eu gwneud o'r ddrama ei hun - er enghraifft i ddangos ein bod yn tyfu'n hen, efallai bod na gerddoriaeth ara deg neu harmoni sydd ddim yn gorwedd yn hawdd sy'n portreadu pa mor anghyfforddus ydy hi i fynd yn hen."
Gan fod Gwenlyn Parry, oedd yn dod o Ddeiniolen yn wreiddiol, wedi sgrifennu'r ddrama wreiddiol gyda John Ogwen a Maureen Rhys mewn golwg, dau ogleddwr, roedd rhaid i Gwion addasu ei acen hefyd: "Mae'n sialens i fi yn arbennig, yn fwy nag i Caryl, achos nad yw i'n dod o Ddeiniolen, Caernarfon na Phen Llŷn. Cardi ydw i. Ond mae'r iaith yn rhywbeth arbennig i'r ddrama wedyn mae eisiau cael hwnna yn iawn hefyd," meddai gan ddweud ei fod yn cael help i berffeithio ei acen ogleddol gan y cynhyrchwyr.
Opera Gymraeg wreiddiol gyntaf?
Dydi cantorion o Gymru ddim yn cael cyfle yn aml i ganu gweithiau operatig gwreiddiol yn y Gymraeg ac mae'r opera hon yn arloesi meddai Caryl: "Dwi'n meddwl mai hon ydy'r opera gyntaf sydd wedi ei chyfansoddi yn y Gymraeg ar gyfer cantorion proffesiynol.
"Mae 'na bethau cymunedol wedi eu gwneud o'r blaen ac wrth gwrs mae Opera Cymru wedi trosi pethau i'r Gymraeg ond dyma'r un gyntaf hyd y gwn i sydd wedi ei chyfansoddi ar gyfer y Gymraeg.
"Wedyn gobeithio y bydd yn agor y drysau i rai eraill. Mae'n rhyfedd o feddwl mai gwlad y gân ydan ni, fod na ddim un wedi bod erioed," meddai Caryl.
Mae'r Gymraeg yn benthyg ei hun yn dda i'r ffurf meddai Gwion: "Mae'n hen bryd inni gael opera wreiddiol yn y Gymraeg achos mae'r iaith mor liwgar ac mor hyfryd i ganu ynddi.
"Mae ganddi lafariaid agored, hyfryd ac mae'r ffaith ei bod hi mor delynegol - mae'n syndod i fi ein bod ni erioed wedi cael opera fel hyn o'r blaen.
"Gobeithio mai hon fydd y gyntaf o lot o operâu gwreiddiol yn Gymraeg."