Alex Jones wedi cael profiadau 'ych-a-fi' yn y byd teledu
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyflwynydd Alex Jones wedi dweud ei bod wedi cael profiadau "ych-a-fi" yn y byd teledu pan yn iau, ond nad oeddynt wedi ymddangos yn od neu'n anarferol ar y pryd.
Mewn cyfweliad ar raglen Bore Sul ar BBC Radio Cymru, wrth drafod yr holl sôn am ymddygiad amhriodol rhai yn y byd teledu, dywedodd ei bod wedi profi ac wedi gweld ymddygiad tebyg ei hun pan yn iau.
"Mae'r amser di newid lot fawr ers i fi ddechre," meddai.
"Wrth siarad efo unrhyw fenyw o'r un oedran, a llai, bydde profiadau 'da nhw sy', ar y pryd falle, ddim wedi ymddangos yn od, achos fel 'na oedd hi.
"Dyw hynny ddim i ddweud bod hynny'n iawn, ond mae pobl yn fwy ymwybodol o be' sy'n iawn a beth sydd ddim erbyn hyn.
"Fi 'di cael llwyth o brofiadau, ond wedyn ar y pryd, oedden nhw'n eitha' arferol, a dyna le mae'n anodd."
'Ni gyd nawr yn deall le mae'r llinell'
Ychwanegodd: "Bydden i yn casáu se'n ferch i yn cael hanner y profiadau ych-a-fi 'na ges i, ond ar yr un pryd, dydyn nhw ddim yn bethe sydd wedi effeithio fi hir dymor, a fi'n credu bod hynna'n dibynnu ar sut fath o berson y't ti.
"Mae'n ffantastig bo' ni nawr i gyd yn deall le mae'r llinell, ac os yw rhywun yn croesi'r llinell, yna mae 'na ganlyniadau a mae hynny'n beth da."
Mae Alex Jones yn gyflwynydd The One Show ar BBC One ers 2010, ac mae'n dweud ei bod yn "dwlu ar y job 'ma".
"Fi dal yn edrych 'mlaen i fynd i'r gwaith bob dydd," meddai.
Mae'n teimlo bod ei phrofiadau cynharaf wedi siapio ei gyrfa fel cyflwynydd.
"Mae lot ohono fo i wneud efo'r ffordd ges i fy magu gartref.
"Mae Mam a Dad yn bobl dim nonsens, traed ar y ddaear, a fi'n credu bod hynny wedi helpu.
"Mae lot o gyflwynwyr ifanc yn gofyn i fi nawr am gyngor a sut i ddechre, a fi'n dweud, yr ateb yw i ddechre ar y gwaelod a wedyn gweithio ffordd lan a deall pa mor bwysig yw pob rôl at y cynhyrchiad yn y pendraw.
"Mae'r ffordd dwi'n trin pobl, heb enwi enwau, yn wahanol i lot o bobl eraill, achos dwi'n gwybod eu bod nhw'n gweithio mor galed - mae'n jobyn sydd ddim yn talu'n dda, mae gofyn i wneud cant a mil o bethe ar unwaith, a mae'u jobyn nhw lot yn anoddach na'n jobyn i.
"Fi'n credu bo fi di cael wrth Mam a Dad y work ethic cryf 'ma, a dwi'n benderfynol bod y plant yn cael hynny oddi wrthon ni hefyd."
Magu'r plant yn ddwyieithog
Mae gan Alex a'i gŵr Charlie dri o blant, sy'n cael eu magu yn ddwyieithog yn Llundain.
Dywedodd ar Bore Sul bod cadw Cymreictod a'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn iddi.
"Ni'n mynd nôl i Gymru'n aml iawn.
"Byddwn ni 'na nawr dros y Flwyddyn Newydd, ni'n hala lot o amser lawr yn Sir Benfro a maen nhw'n clywed fi'n siarad Cymraeg bob dydd, gyda Mam a'n chwaer, a wedyn dyw e ddim yn beth od iddyn nhw o gwbl.
"Mae Ted yn deall bob gair ac yn gallu siarad nol; Kit ddim cymaint â hynny - mae'n deall ond ddim yn hyderus falle - a wedyn, Anni, wel mae braidd yn ifanc i siarad Saesneg felly pwy â wyr!"
"Dwi ddim yn teimlo bo' fi'n siarad llai o Gymraeg nawr bo fi'n byw fan hyn.
"Gartref gyda'r teulu fi dal yn siarad Cymraeg gyda'r plant fan hyn, maen nhw'n ateb yn Saesneg ond maen nhw'n deall yn iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref
- Cyhoeddwyd29 Mai 2023
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023