Sut mae dathlu'r Dolig fel Pobol y Cwm
- Cyhoeddwyd
Er gymaint mae arferion gwylio wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf mae arlwy teledu'r Nadolig yn parhau i ddenu cynulleidfaoedd enfawr.
Ac er bod y dyddiau pan fo Dirty Den yn rhoi papurau ysgaru i Angie yn Eastenders yn gallu denu tros dri deg miliwn o wylwyr wedi hen fynd, mae operâu sebon yn parhau i fod yn gonglfaen yn amserlenni Nadolig y prif sianeli, gan gynnwys wrth gwrs S4C.
Cafodd pennod Nadolig gyntaf Pobol y Cwm ei darlledu ar Noswyl Nadolig 1974 ac eleni bydd y gyfres yn darlledu ei 50fed pennod Nadolig (er bod pethau wedi newid rhywfaint ers y dyddiau hynny pan mai canu carolau trigolion Bryn Awelon oedd y prif atyniad).
Ond beth mae dathliadau Nadolig Cwmderi dros y blynyddoedd yn gallu ei ddweud wrthom am y Nadolig delfrydol?
Ar gyfer yr ymchwil hynod bwysig yma dwi wedi gwylio'r 50 pennod Nadoligaidd (wel… ocê 44, mae 'na chwech ar goll am byth) a dadansoddi'r elfennau hynny sydd yn angenrheidiol ar gyfer Nadolig llwyddiannus ym myd y sebon.
Ond yn gyntaf dau beth sydd ddim yn gwneud ein rhestr…
Gŵyl y Baban
Yn draddodiadol mae babanod yn ganolog i ddathliadau'r Nadolig, neu un baban yn benodol beth bynnag. Ac yn wir mae operâu sebon yn dueddol o barhau'r traddodiad o gael cymeriadau yn rhoi genedigaeth dramatig ar y diwrnod mawr.
Nid felly yng Nghwmderi ble mewn 50 o flynyddoedd dim ond un babi sydd wedi cyrraedd ynghanol yr ŵyl, Seren Monk yn 2017 a bydd hithau ddim yn dathlu eleni druan.
Eira! Eira! Eira! (neu ddim)
Mae'r tywydd yn gallu bod yn her wrth ffilmio golygfeydd allanol ar y gorau, ac yn enwedig pan mae penodau'r Dolig yn cael eu ffilmio ynghanol haul mis Awst. Alla'i ond dychmygu mai dyma'r rheswm tydi hi ond wedi bwrw eira unwaith ar ddiwrnod Nadolig yng Nghwmderi, a hynny yn 2011.
I roi hyn mewn cyd-destun mae yna DDWY enghraifft o losgach Nadoligaidd, DAU herwgipiad a DWY bennod Nadolig wedi cymryd lle yn Tenerife tros y 50 mlynedd, felly mae cyfnod y Nadolig ar Bobol y Cwm yn dra gwahanol i'r ddelwedd draddodiadol.
Ac felly pa elfennau sydd YN gwneud y rhestr? Rydym wedi dadansoddi'r data a ffidlan efo'r fformiwla i amlygu'r elfennau sy'n hollol angenrheidiol ar gyfer Nadolig delfrydol yn ôl 50 mlynedd o Bobol y Cwm…
Y wledd
Mae'r cinio Nadoligaidd yn ganolbwynt yng Nghwmderi fel yng ngweddill Cymru ond rhan bwysicaf o'r traddodiad ydi cymlethdodau'r coginio. Prin fod Dolig yn mynd heibio heb i'r trydan ddiffodd neu i bopty chwythu'i blwc a bod rhaid i drigolion y pentref droi at gyfeillgarwch cymdogion er mwyn cael eu bwydo.
Dros gyfnod o ddegawdau ni lwyddodd trigolion cartref henoed Bryn Awelon gael cinio Nadolig yn eu cartref eu hunain unwaith yn sgil rhyw anffawd dymhorol yn y gegin, ac mae'r patrwm yn parhau hyd heddiw.
Y wers? Peidiwch â phanicio os ydi'ch twrci'n edrych yn druenus. Mae caffi Meic Pierce wastad yn opsiwn.
Gwestai arbennig
Pam dathlu hwyl yr ŵyl gyda'r teulu pan allwch chi weld y rheiny unrhyw bryd! Na, mae gwahodd gwestai annisgwyl i ychwanegu bach o sbeis i'r dathliadau yn opsiwn llawer mwy cyffrous ac yn gallu arwain at bob math o ddigwyddiadau rhyfedd.
Dyma wnaeth Diane yn 2013 pan ddaeth ar draws cymeriad Christine Pritchard - Shirley - yn loetran mewn mynwent a'i gwahodd adref am lymed. Cyn pen dim roedd ei gwestai wedi cymryd ffansi at dipyn mwy na'r mins peis pan fanteisiodd ar y cyfle am snog bach sydyn efo Dai.
Llwyddodd Dr Geraint Stephens i hyd yn oed ddarganfod rhywun i rannu'i dwrci gydag ef pan herwgipiodd Karen am gyfnod yr ŵyl. Er byddwn i'n awgrymu, os yn dilyn y rheol hon, bod y gwesteion gorau yno o'i gwirfodd.
Dyblu'r dathlu gyda phriodas
Oes 'na unrhyw un erioed wedi priodi ar ddydd Nadolig yn y byd go iawn? Dwi'n sicr heb gael gwahoddiad.
Er hynny mae priodas fawreddog ar ddiwrnod Nadolig yn draddodiad cyson yng Nghwmderi o Dic Deryn a Carol yn 1989, i Gwyneth ac Yvonne yn 2010.
Hyd yn oed gwell os ydi'r briodas yn cael eu darfu gan gyn-gariad â'i frwd ar roi stop ar bethau fel yn achos Cadno a DJ yn 2016 neu Ffion a Hywel yn 2007. Does neb yn dweud fod rhaid i'r briodas fod yn llwyddiant wedi'r cyfan; y peth pwysig ydi'r cyfle i wisgo fyny a denu'r gynulleidfa fwyaf bosib ar gyfer pa bynnag giamocs sydd ar y gweill!
Cyfrinach i'w rannu?
Wedi bod yn eistedd ar gyfrinach enfawr ac wedi bod yn chwilio am yr eiliad iawn i'w rannu, wel pa amser gwell na dros y twrci a'r trimins?
Un o draddodiadau balchach Pobol y Cwm yw defnyddio'r Nadolig fel cyfle i ddatgelu'r gwir am bob mathau o gyfrinachau cyffroes. Eisiau datgelu fod dau gariad hefyd yn digwydd bod yn gefndryd? Chwilio am y cyfle perffaith i daro chwyddwydr ar affêr cudd? Efallai eich bod wedi cael tatŵ dodgy o enw Mark Jones ar foch eich tin fel gwnaeth Cilla druan yn 2001 ac wedi bod yn paratoi i'w ddangos i'r byd? Wel dyma'r dydd!
Sioe bach i orffen
Yn wahanol i weddill Cymru tydi trigolion Cwmderi ddim yn gwylio rhyw lawr o deledu, yn hytrach maent yn gorfod mynd i eithafoedd er mwyn diddanu ei gilydd.
O bantomeimau yn serennu Teg a Dyff yn adrodd stori'r tri mochyn bach, i ddrama'r geni ble'r oedd Gwern Monk yn credu bydda'i bortread o Joseff yn fwy effeithiol os byddai'n cario gwn - mae rhywbeth at ddant bawb yn arlwy theatrig Cwmderi tros y blynyddoedd.
Heb gyllid ar gyfer gwisgoedd a setiau? Beth am gymryd tudalen allan o lyfr cartref henoed Bryn Awelon a mynnu bod y teulu oll yn cymryd tro i neud 'turn'. Allwch chi ddim neud dim gwaeth na udo Metron druan.
Drwy edrych yn ôl tros hanner canrif o Nadoligau pentref enwocaf Cymru mae'n deg dweud mai anaml mae trigolion Cwmderi yn cael Nadolig hapus.
Ond os y dilynwch chi'r pum cam yma, rydych yn siŵr o gael Dolig i'w gofio os dim byd arall!
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2019