Traddodiadau Nadolig teulu Colleen Ramsey
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n enwog am gogino, ac mae o'n enwog am chwarae pêl-droed – dau beth sy'n bwysig i nifer dros yr ŵyl. Tybed felly pa draddodiadau sydd yn nhŷ'r Ramseys ar ddiwrnod Nadolig.
Cymru Fyw fu'n holi Colleen Ramsey.
Pryd mae Nadolig yn dechrau yn eich tŷ chi?
Ar ôl pen-blwydd fy mab hynaf sef 15fed o Dachwedd mae'n Nadolig, felly yn gynnar!
Mae gen i bump coeden Nadolig. Mae'n cymryd wythnos i orffen nhw i gyd ond mae Mam yn helpu fi 'neud e. Mae Mam rili mewn i arty pethau. Os bydden i'n trio 'neud e fy hun bydde fe'n edrych yn rubbish.
Beth yw'r drefn yn eich tŷ chi ar ddiwrnod Nadolig?
Wel, mae Dad yn rhoi'r diod allan yn gynnar, ond dw i'n trio peidio cael champagne neu unrhyw beth fel 'na nes mae'r bwyd wedi'i wneud. Mae Dad fel arfer yn gwisgo het twrci sydd yn dechrau'r dydd bant yn dda.
Mae rhan fwyaf o bethau wedi'u gwneud yn barod, fel y cig, ac mae fi, Mam a Dad yn paratoi popeth arall yn y gegin, mae fy chwaer yn edrych ar ôl y plant sydd fel arfer yn wallgof achos fod gormod yn mynd ymlaen!
Mae fy mrawd ac fy chwaer-yng-nghyfraith yn sotrio amseroedd y bwyd. Mae e i gyd yn mynd ymlaen!
Mae'n swnio fel bod llawer ohonoch yn y tŷ. Faint ohonoch chi sydd?
Tua 16 oedolyn, dw i'n credu a 7 o blant flwyddyn yma.
Ai ti yw bós y gegin ar y diwrnod?
Fi yw'r prif chef, ond ni gyd yn cael y pethau ni'n paratoi ein hunain. So, mae Dad yn 'neud y roasties, mae Mam yn dueddol i edrych ar ôl unai y cig eidion neu'r twrci a dw i'n 'neud yr un arall. Felly, ni ddim yn sefyll ar draed ein gilydd ormod.
Pa bryd 'nes di gymryd drosodd gan dy rieni fel y prif gogydd?
Dw i'n meddwl bod e achos bod gen i tri dishwasher. Dyna'r rheswm, ac mae'n haws i lanhau draw yn fy nhŷ i. Felly achos mae e yn tŷ fi, yn cegin fi, fi yw'r prif chef.
Dw i'n credu dw i'n [cynnal cinio Nadolig] ers i fi symud i ffwrdd. Nhw sy'n dod i fy nhŷ, a wedyn dyna fy domain.
Oes gan dy deulu draddodiadau unigryw?
Ni'n rili lico cael baubles sydd yn cynrychioli pob person, ac maen nhw'n newid bob blwyddyn. Mae'r teulu yn dod a nhw ac yn eu rhoi nhw ar fy nghoeden i.
Blwyddyn yma ni'n cael rhai pys a moron achos mae Mam a Dad yn cael tatŵ ar eu traed nhw – un efo pys ac un efo moron – sydd yn cynrychioli y ffilm Forrest Gump. Mae'n dweud yn hwnna ni'n mynd 'da'n gilydd "like peas and carrots." So, maen nhw wedi gwneud hwnna. Mae mor ciwt.
Mae dy ŵr yn bêl-droediwr sy'n chwarae'n aml ar Ddydd San Steffan, yw hynny'n effeithio ar ddiwrnod Nadolig?
Mwyafrif yr amser, falle mae pêl-droedwyr yn cael bwyd gyda'r teulu yn y bore ond wedyn byddden nhw'n teithio i ffwrdd. Felly maen nhw'n colli Gŵyl San Steffan.
A dyna ddiwrnod pen-blwydd fy ngŵr felly rydyn ni'n colli hwnna gyda fe. Weithiau mae e adref so mae hwnna'n neis, ond blwyddyn yma mae e ddim. Ond mae e dal yn cael y bore gyda ni sydd yn rili neis.
Yn Yr Eidal maen nhw'n gadael i ti gael e off.... mae Nadolig yn bopeth yno.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2024