'40 mlynedd ers i mi arestio'r Parchedig Emyr Ddrwg'

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys disgrifiadau o droseddau a allai beri gofid.

Disgrifiad,

Fideo: Y cyn dditectif Gwyn Roberts yn arwain y Parchedig Emyr Owen i'r car yn 1984

"Dwi'n cofio'r diwrnod fel tase fo wedi digwydd ddoe, mae'n anhygoel i feddwl fod 40 mlynedd wedi mynd heibio."

Dyna eiriau'r cyn ditectif gwnstabl Gwyn Roberts wrth sôn am un achos adnabyddus iawn y gwnaeth ei ddatrys tra'n gweithio i'r heddlu.

Ar y pryd doedd dim trosedd o'r fath erioed wedi digwydd na unrhyw gynsail cyfreithiol yn bodoli ym Mhrydain.

Roedd yn achos unigryw wnaeth greu penawdau ar draws y byd, sef achos y Parchedig Emyr Owen, o Dywyn Meirionydd.

40 mlynedd i'r diwrnod ers arestio Emyr Owen, Gwyn Roberts sy'n hel atgofion am sut gwnaeth achos o lythyrau câs anhysbys droi i achos o ddifrodi cyrff y meirw.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Gwyn Roberts ymddeol o'r heddlu yn 1991

"Dwi'n cofio'n iawn, Rhagfyr yr 22ain 1984, nos Sadwrn oedd hi ac roeddwn yn gweithio yn Nolgellau," medd Gwyn Roberts.

"Ychydig fisoedd cyn hynny roeddwn wedi cael galwad i fynd i weld Superintendent Davies wnaeth gyflwyno'r achos o lythyrau cas anhysbys i mi.

"Roedd 'na sawl person yn Nhywyn, Dolwyddelan a Bae Colwyn wedi derbyn llythyrau câs gan berson anhysbys," meddai.

Digon diniwed oedd rhai, fel cyhuddo organydd capel o fod yn chwaraewr gwael, o'u cymharu gyda negeseuon sinistr eraill - yn cynnwys llythyr i un ddynes yn bygwth lladd ei wyres.

"Un peth neidiodd allan yn syth wrth ddarllen y llythyrau yma oedd y llythyren 't' a sut oedd y llythyren benodol yma'n cael ei sgwennu mewn ffurf unigryw," meddai Gwyn.

'Moment Eureka'

Dros yr wythnosau nesaf fe aeth Gwyn drwy bron i 6,000 esiampl o ddogfennau gwahanol, boed nhw'n dicedi raffl neu lythyrau gwahanol i geisio dod o hyd i'r math unigryw yma o ysgrifen.

Cyn hir tra ar drywydd rhywbeth hollol wahanol, roedd yn digwydd ymweld â fferm ac yn trafod y llythyrau. Daeth unigolyn ato a chyflwyno copi o'r Beibl i Gwyn oedd wedi'i lofnodi gyda neges gan y parchedig lleol.

Meddai: "Nes i ddangos iddo fo y letter 'T' yn un o'r llythyra, anfonodd am Destament Newydd a'i rhoi o i fi. Cymerais y Testament a'i agor a ffeindio tu mewn roedd llawysgrifen yn derbyn y dyn i'r capel lleol, a be' oedd o wedi sgwennu oedd y letter 'T'.

"Dyna'r foment Eureka i mi, roedd y llawysgrifen yr un fath a'r hyn oedd wedi'u cynnwys yn y llythyrau, roeddwn wedi ei ddal o," medd Gwyn.

Roedd yr ysgrifen yma'n perthyn i'r Parchedig Emyr Owen.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Parchedig Emyr Owen yn weinidog yn ardal Tywyn, Meririonydd

Roedd Emyr Owen wedi'i fagu ym Mlaenau Ffestiniog cyn ymuno â'r weinidogaeth.

Roedd yn gwasanaethu yn ardal Tywyn, gyda gofalaeth am sawl capel ers symud yno yn 1976.

Meddai Gwyn: "Nos Sadwrn oedd hi, 22 Rhagfyr 1984, roeddwn wedi bod yn trio ffonio rhif cartref Emyr Owen ers dyddiau i weld os oedd o adref ond heb gael fawr o lwc.

"Doeddwn ddim eisiau galw yno drwy'r amser a chnocio'r drws rhag ofn i'w gymdogion ddweud wrtho fod yr heddlu wedi galw.

"Ar y nos Sadwrn dyma'n ateb y ffôn a dyma finnau'n gofyn am Mr Jones.

"Na, y Parchedig Emyr Owen sydd yma, medda fo.

"Dyma'n fi'n rhoi'r ffôn i lawr yn syth a neidio i'r car er mwyn teithio i Dywyn o Ddolgellau gan bigo cydweithiwr PC Edwards i fyny ar y ffordd."

Ar ôl cyrraedd cartref Emyr Owen: "Aethon ni fewn i'r lounge ac ar y bwrdd roedd dwsinau o gardiau Dolig - envelopes wedi cael eu addressio.

"Edrychais yn sydyn ac roedd letter 'T' i weld ar ddau ohonyn nhw."

Gwadu gyrru unrhyw lythyrau cas wnaeth Emyr Owen, ond ar ôl holi ymhellach a dangos y llawysgrifen yn y Beibl iddo, fe gyfaddefodd i yrru'r holl lythyrau gan ddweud nad oedd yn gwybod pam wnaeth y ffasiwn beth a'i fod yn wael ar y pryd.

Fe allai hynny fod wedi bod yn ddiwedd ar y mater, tan i Gwyn Roberts ofyn am gael gweld yr ystafell lle'r oedd o'n sgwennu'r llythyrau.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma gopïau o'r llythyrau a'r lythyren 't' oedd yn sefyll allan i Gwyn wrth edrych dros y dystiolaeth

Yn ystafell wely'r gweinidog, lle'r oedd yn cadw copïau o'i holl bregethau a llyfrau'r capel, roedd bocs.

Meddai Gwyn Roberts: "Yn y bocs sgidia roedd 'na handcuffs, screwdriver, llathen o raff, dental extractors - dau bar, medical forceps, rasal a manylion eraill.

"Yn y wal o'm mlaen roedd drws cwpwrdd. Nes i agor hwnna a thynnu allan magazines dynion noethlymun... o'n i 'di edrych ar y llyfrau oedd ganddo fo - bob un am ryw, human sacrifices, cannibalism, bizzare sex acts."

Hefyd daeth Gwyn o hyd i rywbeth rhyfeddol.

Ar y ddesg roedd tri bocs o sleids ffotograffau, a phan roddodd un sleid i'r golau fe gafodd y ditectif ei syfrdanu o weld y ddelwedd - organ rhywiol dyn wedi ei dorri o'r corff, ac wedi ei osod ar blât.

'Emyr Dda ac Emyr Ddrwg'

Lluniau post-mortem oedden nhw, meddai'r gweinidog, ond ar ôl holi ymhellach fe ddaeth y gwir.

"Dyma Emyr yn cyfaddef ei fod o wedi torri organau rhywiol oddi ar dri chorff oedd yn disgwyl angladd yn y capel," meddai Gwyn Roberts.

"Wrth ei holi roedd Emyr yn cyfeirio at ei hun fel dau berson gwahanol, Emyr Dda ac Emyr Ddrwg, ac mai'r Emyr Ddrwg oedd wedi cyflawni'r troseddau yma."

Wedi iddo gael ei gyhuddo'n swyddogol yn y llys ynadon ar noswyl 'Dolig, fe dorrodd y stori dros yr ŵyl.

Doedd neb wedi clywed am y fath achos o'r blaen, ac un o ddadleuon cynnar cyfreithiwr Emyr Owen oedd nad oedd difrodi corff yn bodoli fel trosedd yn ôl y gyfraith.

Yn y pendraw, pledio'n euog wnaeth Emyr Owen a chafodd bedair blynedd o garchar.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gwyn ei ganmol gan y barnwr yn dilyn yr achos

Fe wnaeth Gwyn ymddeol o'r heddlu yn 1991.

Yn ystod ei gyfnod fel ditectif, fe weithiodd ar sawl achos o lofruddiaeth, achosion llosgi tai haf Meibion Glyndŵr ac achos bomiau Mudiad Amddiffyn Cymru.

Er gwaetha'r achosion eraill, mae achos y Parchedig Emyr Owen yn aros ym meddwl Gwyn yn fwy na'r lleill.

"Dwi'n meddwl achos fy mod wedi gweithio ar yr achos yma ar fy mhen fy hun, mae o'n sticio fwy yn fy meddwl."

Cafodd Gwyn ganmoliaeth gan Brif Swyddogion y llu ac fe dalodd y barnwr deyrnged iddo am ei waith a'i ymholiadau trylwyr yn ystod yr achos.

Meddai: "Doedd gen i ddim syniad am y troseddau eraill nes i mi archwilio'r llofft yn Nhywyn. Dim ond llythyrau câs oedd ar fy meddwl nes i mi ddod ar draws y dystiolaeth eraill.

"Heb os roedd gan Emyr Owen bersonoliaeth Jekyll and Hyde a 'tydi o ddim syndod iddo ddeud fod 'na Emyr Dda ac Emyr Ddrwg wrth gyfeirio at ei hun."

Bywyd ar ôl carchar

Fe ryddhawyd Emyr Owen o'r carchar ac fe symudodd i fyw i ardal Llandudno a byw bywyd cyffredin.

Fe gymrodd rhan mewn cyfweliad teledu ym 1991 gyda'r diweddar Vaughan Hughes gan drafod y troseddau y cyflawnodd.

Hyd yn oed ar ôl ei ryddhau o'r carchar, roedd Gwyn dal yn gweld Emyr Owen yn cerdded ar ochr y stryd yn Llandudno, ac roedd Emyr wastad yn croesi'r ffordd i ddod i siarad gyda Gwyn.

Bu farw Emyr Owen ar 25 Ionawr 2001 yn 78 oed.

Wrth edrych yn ôl dros ei yrfa mae Gwyn yn falch o'r hyn a gyflawnodd mewn oes cwbl wahanol o blismona.

Ond roedd llwyddo i ddatrys achos nad oedd erioed wedi ei weld ym Mhrydain o'r blaen mewn pentref tawel yng ngogledd Cymru yn sicr yn bluen yn ei het a rhywbeth y bydd yn cofio amdano hyd yn oed yn hirach na'r 40 mlynedd sydd wedi mynd heibio.

Pynciau cysylltiedig