Plant Y Barri yn canu Fairytale of New York yn Gymraeg

Disgrifiad,

'Fairytale of New York' yn y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Cerddwch i mewn i unrhyw siop dros gyfnod y Nadolig ac rydych chi'n debygol iawn o glywed y gân 'Fairytale of New York' gan The Pogues.

Ond glywsoch chi erioed hi'n cael ei chanu yn y Gymraeg?

Dyma fideo o ddisgyblion o flynyddoedd 3, 4, 5 a 6 yn Ysgol Sant Baruc, Y Barri, yn canu eu fersiwn hyfryd nhw o'r gân a berfformiwyd yn wreiddiol gan Shane McGowan a Kirsty MacColl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kirsty MacColl a Shane McGowan yn perfformio'r gân, a gafodd ei rhyddhau yn wreiddiol yn 1987

Yn ôl Steffan Ellis, sy'n gweithio yn yr ysgol: "Falle fod pobl yn nabod Y Barri fel gwlad Gavin a Stacey – ond mae llawer mwy iddi na hynny. Mae'n gartref i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ers 50 mlynedd ac mae'n gartref i gymuned glos, cynnes a chyfeillgar. Cymuned Gymreig hefyd. Mae'r Barri'n hawlio Gwynfor Evans wedi'r cyfan!

"Mae'n ysgol ni'n dathlu 50 mlwyddiant eleni ac fel rhan o'r dathlu bu i ni gynnal gwasanaeth Nadolig yn Eglwys yr Holl Saint ar ein stepen drws yn Y Barri.

"Mae clasur The Pogues wedi ei gosod yn Efrog Newydd – a gan fod Y Barri yn llawn mor arwyddocaol a dinasoedd mawr y byd roedd hi'n teimlo'n iawn i ni fenthyg y gân y Nadolig yma. Mae'r gân ei hun yn deyrnged i'r gymuned arbennig yma, yn ddathliad o'r bobl a'r lle. Mae'r plant wedi bod wrth eu boddau'n ymfalchïo yn eu tref nhw ar ben dysgu a pherfformio'r gân i'w teuluoedd a'u ffrindiau."

Be' well i'ch cael chi yn ysbryd yr ŵyl?

Pynciau cysylltiedig