Siart Amgen Rhys Mwyn 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ers wythnosau, mae gwrandawyr rhaglen Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru wedi bod yn pleidleisio er mwyn dewis eu hoff draciau amgen.

Yn 2023, Rogue Jones oedd yn rhif 1, gyda'r gân Triongl Dyfed. Ond pwy fydd yn dod i'r brig yn y Siart Amgen eleni?

20. Y Delyn Aur - Meic Stevens

19. Tachwedd - Gentle Good

18. Yr Un - Taran

17. Talach Na Iesu - Plant Duw

16. Gneud Fy Mhen i Mewn - Ffa Coffi Pawb

15. Y Llosg - Eirin Peryglus

14. Siaron a Fi - Diffiniad

13. Cofia Fi - Lleuwen

12. Hawdd Fel Bore Llun - Datblygu

11. Chinese Whispers - Melys

10. Unfan - Buddug

Ffynhonnell y llun, Buddug

Dim ond ers blwyddyn mae Buddug yn gigio a rhyddhau traciau, ond mae hi wedi creu argraff. Roedd ei sengl gyntaf, Dal Dig, yn rhif 3 yn Siart Amgen 2023.

Mae'r ferch 18 oed wedi cael haf prysur o recordio a pherfformio mewn gwyliau mawr fel Tafwyl a'r Eisteddfod Genedlaethol... a gwneud ei arholiadau Lefel A!

9. Hold On Dafydd John - Pys Melyn

Ffynhonnell y llun, Pys Melyn

Cafodd albwm cyntaf y band o Ben Llŷn - Bywyd Llonydd - ei enwebu am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2021, ac roedd yr ail albwm, Bolmynydd, hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr yn 2024.

Mae'r band wedi cael blwyddyn brysur o gigio yng Nghymru a Lloegr.

8. Cocsio - MR

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

MR yw band Mark Roberts, cyn-aelod Y Cyrff a Catatonia.

Mae wedi bod yn perfformio fel MR ers 2018, ac wedi rhyddhau'r albyms Oesoedd, Amen, Feiral, Llwyth a Misses ers hynny.

7. Dau Funud - Malan

Ffynhonnell y llun, Malan

Dau Funud oedd sengl gyntaf Gymraeg Malan, a oedd yn Drac yr Wythnos BBC Radio Cymru ym mis Hydref.

Roedd y cerddor o Gaernarfon yn gigio yng ngwyliau Sesiwn Fawr, Green Man a Sŵn eleni.

6. Mwy - Adwaith

Ffynhonnell y llun, Adwaith

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn llwyddiannus iawn i'r band o Gaerfyrddin.

Maen nhw wedi ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ddwywaith, wedi cael dros filiwn o ffrydiadau ar Spotify, ac wedi perfformio yn Glastonbury.

Bydd Hollie, Heledd a Gwenllian yn teithio gyda'u halbwm newydd, Solas, ar draws Prydain ac Ewrop ym mis Chwefror a Mawrth 2025.

5. Pibellau - Hap a Damwain

Hap a Damwain ydi band o Fae Colwyn sy'n ysgrifennu caneuon 'pop a baledi arbrofol'. Mae Aled a Simon wedi bod yn perfformio gyda'i gilydd ers 2019.

Mae eu halbwm, Diwedd Hanes, allan ym mis Ionawr.

4. Gwacter - Sybs

Ffynhonnell y llun, Sybs

Sybs oedd enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn 2018.

Cafodd albwm cyntaf y band - Olew Nadroedd - ei ryddhau ym mis Mai 2024. Maen nhw wedi bod yn gigio llawer eleni, gan gynnwys cefnogi HMS Morris ac Ynys.

3. Byd ar Dân - Me Against Misery

Ffynhonnell y llun, Me Against Misery

Mae caneuon gan Me Against Misery wedi bod yn y Siart Amgen ers tair blynedd yn olynol.

Perfformiodd y band o Gwm Rhondda eu gig byw cyntaf ym mis Tachwedd, yr un diwrnod cafodd eu sengl, Byd ar Dân, ei ryddhau.

2. Ugain i Un - Datblygu

Ffynhonnell y llun, Datblygu

Mae'r band Datblygu yn cael ei ystyried yn un o fandiau mwyaf dylanwadol yr iaith Gymraeg.

Yn recordio'n bennaf yn yr 1980au a dechrau'r '90au, cafodd cerddoriaeth ei rhyddhau yn yr 2010au, gyda'r trac olaf yn 2020. Bu farw Dave 'Datblygu' Edwards yn 2021.

Mae'r trac Ugain i Un oddi ar yr albwm Pyst o 1990.

1. Cofia'r Enw - Celavi

Ffynhonnell y llun, Celavi

Celavi yw'r pâr priod, Sarah a Gwion; cafodd y band nu-metal, roc-electro a goth ei ffurfio yng Ngwynedd yn 2018.

Roedd eu cân, Dyma Fi, yn rhif 10 yn Siart Amgen 2023. Cafodd eu EP, Anima, ei ryddhau eleni.

Geirfa

pleidleisio / to vote

traciau amgen / alternative tracks

dod i'r brig / come out on top

eleni / this year

rhyddhau / to release

argraff / impression

perfformio / to perform

gwyliau / festivals

arholiadau / exams

enwebu / to nominate

gwobr / award

rhestr fer / shortlist

cyn-aelod / former member

ers hynny / since then

cerddor / musician

llwyddiannus / successful

ffrydiadau / streams

teithio / to tour

arbrofol / experimental

cystadleuaeth / competitions

Brwydr y Bandiau / Battle of the Bands

cefnogi / to support

yn olynol / consecutive

byw / live

ystyried / to consider

dylanwadol / influential

pennaf / mainly

pâr priod / married couple

ffurfio / to form