'Hud y Nadolig yn atgof' i rai gofalwyr ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae prysurdeb adeg y Nadolig yn dod law yn llaw gyda chyfrifoldebau ychwanegol i ofalwyr ifanc, ac i Bella mae'r ŵyl yn amser "od" lle mae "hud y Nadolig yn atgof".
Yn ofalwr ifanc i'w thad a'i brodyr bach, dywedodd Bella, 13 oed o Aberbargoed, ei bod hi'n teimlo'r pwysau fwy fyth yr adeg yma o'r flwyddyn.
Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr mae 'na "fwlch mawr" rhwng nifer y gofalwyr sydd mewn cyswllt gyda'u hawdurdodau lleol a'r rhai sy'n derbyn cymorth, ond "mae angen rhagor o gefnogaeth i gyrraedd y galw".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "darparu cyllid ar gyfer cyflwyno'r Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc sy'n allweddol i helpu gofalwyr ifanc i nodi eu hunain i staff mewn ysgolion, colegau a fferyllfeydd".
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022
Mae Bella yn "gwneud popeth bydde Mam yn 'neud" er mwyn rhannu'r baich, ac mae hi wedi bod yn gofalu am ei thad a'i dau frawd bach ers yn chwe blwydd oed.
"Ma' gan Dad broblemau gyda iechyd meddwl a ma' fe 'di torri hip fe, felly ma' hwnna yn stopio fe rhag cerdded."
Wrth siarad â Chymru Fyw, esboniodd Bella hefyd bod gan ei brawd bach, Alex, broblemau ar y galon, tra bod ei brawd ieuengaf, Nico, â chyflwr ar ei ymennydd.
"Gyda Dad, fi angen nôl pethau iddo fe, mynd â fe mewn a mas o'r tŷ," meddai.
Mae hi hefyd yn helpu rhoi meddyginiaeth i'w brodyr, yn eu bwydo nhw ac yn "'neud popeth bydde Mam yn 'neud oherwydd mae angen help arni hi."
'Teimlo'n euog'
Mae ei chyfrifoldebau o ddydd i ddydd yn parhau dros yr ŵyl, ond mae'n dweud ei bod hi'n teimlo'r pwysau fwy fyth yr adeg yma o'r flwyddyn.
"Fi wedi cael perthynas od gyda Nadolig oherwydd bod popeth yn digwydd y mis 'ma," meddai Bella
"Apwyntiadau, nôl pethau am y Nadolig, mae jest yn fis crowded iawn. Fi jest angen helpu lot."
Dywedodd Carly, mam Bella, bod y Nadolig yn "wahanol" iawn bellach.
Mae'n gyfnod "anodd", meddai, lle mae "hud y Nadolig nawr yn atgof" i'w merch.
"Mae'r pleser o weld Bella yn agor ei anrhegion yn wahanol iawn achos mae'n helpu i brynu a wrapio nhw.
"Dwi yn teimlo'n euog achos ma' plant arall oedran hi yn mynd allan i chwarae ond dydy Bella ddim gyda'r siawns i 'neud mor aml achos ma' angen help arna i."
Doedd Bella heb dderbyn unrhyw gefnogaeth tan iddi hi fynd i'r ysgol uwchradd.
Mae hi bellach yn derbyn cymorth lles gan swyddog o Gyngor Sir Caerffili.
Yn ôl deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant Llywodraeth Cymru, mae yna gyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i roi cefnogaeth i bob gofalwr ifanc sydd ei angen.
Yn y flwyddyn 2022/2023, nid oedd pob awdurdod lleol wedi llwyddo i gwrdd â'r galw.
Mae tua hanner siroedd Cymru yn llwyddo i roi cymorth i 100% o'r gofalwyr ifanc sy'n gwneud cais amdano.
Ond ar y pen arall, 39% sy'n cael yng Nghaerdydd, 41% yw'r ffigwr yn Sir Fynwy, a 43% yng Nghaerffili.
Yn ôl Dr Catrin Edwards, pennaeth materion allanol Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru mae'r Nadolig a gwyliau ysgol yn gallu achosi "mwy o straen" i ofalwyr ifanc.
"Ma' gadael y tŷ a mynd i'r ysgol a'r gallu i fod mewn pwynt cyswllt gydag oedolyn arall yn gallu bod yn help mawr iddyn nhw, ac yn gallu lleddfu'r straen maen nhw'n teimlo," meddai.
Dywedodd hefyd bod "bwlch mawr" rhwng nifer y gofalwyr sydd mewn cyswllt gyda'u hawdurdodau lleol a'r rhai sy'n derbyn cymorth.
"Un o'r heriau yw cael eu hadnabod yn y lle cyntaf," meddai Dr Edwards.
"Nid pob gofalwr ifanc sydd yn 'nabod eu hunain fel gofalwr.
"Ma' nhw jest yn teimlo fel dyna be' ma' nhw'n 'neud yn y teulu."
'Cymorth i helpu pob gofalwr di-dâl'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gan awdurdodau lleol "ddyletswydd statudol i gefnogi gofalwyr ifanc".
"Rydym yn darparu cymorth i helpu pob gofalwr di-dâl yng Nghymru sy'n cynnwys ein Cynllun Seibiannau Byr gwerth £9m," meddai.
"Rydym hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer cyflwyno'r Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc sy'n allweddol i helpu gofalwyr ifanc i nodi eu hunain i staff mewn ysgolion, colegau a fferyllfeydd.
"Mae'r Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc yn cynnwys gofalwyr ifanc ac mae cynrychiolydd yn eistedd ar y Grŵp Cynghori'r Gweinidog sy'n caniatau i ni ystyried materion a godwyd gan ofalwyr ifanc a sicrhau bod eu barn yn llywio camau gweithredu yn y dyfodol."