Ateb y Galw: Bryn Terfel

Bryn TerfelFfynhonnell y llun, Jason Mendez
  • Cyhoeddwyd

Y bas-bariton byd-enwog o Bantglas, Bryn Terfel, sy'n ateb y galw yr wythnos hon.

Beth yw eich atgof cyntaf?

O ran atgof ieuenctid, alla i ddim meddwl am ddim byd gwell na'r fferm ym Mhantglas – Nant Cyll Uchaf. Oedd o'n rhywfath o faes i bysgota, i chwarae pêl-droed ac ambell waith 'neud ychydig o waith ar y fferm.

Ond o ran cof perfformio wna' i byth anghofio gwneud fy nghyngerdd Nadolig cyntaf gyda Ysgol Dyffryn Nantlle, a'r pwysau oedd ar rywun i ganu'n unigol o flaen dy gyd-ddisgyblion.

Gallai'r perfformiad hwnnw fod wedi gorffen fy nghyrfa i neu ysgogi fy ngyrfa i a diolch i'r drefn, yr ail un oedd o!

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

O ran lle sy'n annwyl i mi, roedd fy rhieni bob haf yn arfer haneru'r tŷ – ni'n aros mewn carafan a'r bobl oedd yn dod ar wyliau i Gymru yn aros yn y tŷ. Pan oedd 'na blant yn dod i aros fi oedd yn gyfrifol am fynd a nhw i fyny i gopa'r mynydd, sef Graig Goch.

Mae 'na lwybr arbennig yn mynd i'r copa ond mae'n rhaid i chi fynd dros waliau a bod yn ofalus. Roedd fy nhad yn dweud "Gwylia di nad yw'r waliau cerrig 'ma ddim yn disgyn!"

Oeddach chi'n mynd drwy rhyw ddarn lle oedd 'na lus ar y llawr, felly efo'r plant oeddach chi bob tro yn gorffen efo wyneb piws!

Mae'r mynydd yn mynd i ddyffryn cyn cyrraedd y copa ac i'ch llygaid chi mae'n edrych fel mai rhyw awr mae'n gymryd, ond mae wastad wedi cymryd awr a thri chwarter. Ac felly, 'swn i'n dweud mai copa Graig Goch ydi'r lle sydd fwyaf annwyl i mi achos dw i wedi'i weld o drwy lygaid plentyn, a rŵan fel oedolyn.

Ffynhonnell y llun, Eric Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fferm Nant Cyll Uchaf a Graig Goch y tu ôl iddi

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Noson orau heb os nac oni bai, o'm hochr i fel perfformiwr, oedd cyflawni campwaith Richard Wagner o'r ring cycle. Dw i'n rhan o dair opera yn y cylch yna o bedair, sef Das Rhinegold, Die Walküre a Sigfried ac roedd hwnna yn gopa arbennig iawn i'w gyflawni fel canwr opera proffesiynol. Felly roedd y noswaith yna heb ei hail.

Hefyd faswn i'n dweud yn 1988, pan nes i ennill Rhuban Glas yr Ieuenctid yn Eisteddfod Porthmadog, a chyfarfod Syr Geraint Evans am y tro cyntaf. Fo oedd yn beirniadau y gystadleuaeth Towyn Roberts, a hwnnw'n agor drysau arbennig i mi gael clywediad gydag arweinyddion a rhoi gair da i mi mewn tai opera nid yn unig ym Mhrydain ond yn rhyngwladol.

Ffynhonnell y llun, Jack Vartoogian/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bryn gyda Deborah Voigt yn perfformio Die Walküre yng Nhŷ Opera Metropolitanaidd, Canolfan Lincoln, Efrog Newydd yn 2011.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Clên. 'Styfnig. Cariadus.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Yn sicr, pan ddechreuwyd Gŵyl y Faenol ar gae tu allan i Fangor – syniad nad oedd yn ennyn brwdfrydedd yn y cychwyn. O'n i braidd yn ofidus bod y peth ddim am fod yn llwyddiannus.

Ond mi barodd y peth am 9 mlynedd gydag artistiaid fel José Carreras, Shirley Bassey, Westlife, Girls Aloud, Michael Ball, John Barrowman, John Owen Jones, Shân Cothi. Anhygoel. A'r fath nosweithiau operatig lle oedd pobl yn gallu dweud "Nes i weld nhw yn y Faenol."

Mae hynny'n gwneud i mi wenu.

Disgrifiad o’r llun,

Bryn yn perfformio gyda José Carrerras yng Ngala Operatig Gŵyl y Faenol 2003

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Anghofio geiriau ar lwyfan, sy'n gywilyddus ar fy rhan i, ac mae'n codi cywilydd arna' i bob tro. Mae o'n gwneud i chdi deimlo ddylwn i fod wedi gweithio'n galetach tuag at hwnnw.

Ond mae o'n gwneud i chdi fynd yn ôl ar noson arall a gwneud yn siŵr bo' ti ddim yn gwneud yr un camgymeriad.

Ac un tro, roedd fy malog a botymau fy nhrowsus i'n agored pan o'n i'n chwarae Falstaff. Ac wrth gwrs roedd gen i'r bol 'ma – dim fy mol fy hun os ga' i ategu – do'n i'm yn teimlo bod y trowsus wedi disgyn! Doedd hwnnw ddim yn deimlad braf iawn.

Ffynhonnell y llun, Robbie Jack
Disgrifiad o’r llun,

Bryn Terfel yn perfformio yn Falstaff gan Giuseppe Verdi yn y Royal Opera House, Llundain yn 2018.

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Oes, dw i'n chwarae ryw gêm pool ar y ffôn, a pan fydda i ffwrdd oddi wrth y plant efallai fy mod ar yr hen gêm pool 'na ormod. Ac mae'r plant yn gwybod hynny hefyd.

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Un Nos Ola Leuad fyddai'r llyfr. Hwnnw 'nes i fwynhau fwyaf yn yr ysgol.

Gen i ddiddordeb mawr yn Y Mabinogion, a dw i dal yn meddwl pam nad oes 'na rhyw gyfansoddwr wedi dwyn deunydd o hwnnw a chreu boed yn sioe gerdd neu opera.

Ac wedyn mae gen i lyfr nes i brynu yn Vienna o'r tŷ opera. Sgôr ydi o, o'r atodiad cyntaf o Briodas Figaro gan Mozart, a'r platiau ddefnyddiwyd i wneud y sgôr am y tro cyntaf. Felly mae hwnnw'n rhyw fath o gyhoeddiad cyntaf y sgôr Le nozze de Figaro gan Mozart. Mae hwnnw'n cymryd lle pwysig iawn yn y stafell gerdd.

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dw i yn un sydd wrth ei fodd yn chwarae snwcer a dilyn snwcer, a gwylio darts. Rhywbeth i wneud â chwaraeon – pêl-droed, pêl-fasged, criced, rygbi.

O'n i'n eitha' da yn yr ysgol. O'n i yn y tîm pêl-fasged, o'n i yn y tîm rygbi, o'n i yn y tîm pêl-droed, o'n i yn y tîm criced. Dw i'n meddwl mai fi oedd un o'r rhai cyntaf i gael dros 50 o rediadau mewn un diwrnod o griced yn Ysgol Dyffryn Nantlle.

O'n i hefyd yn dal recordiau'r naid uchel a'r naid hir. Ond dw i'n sicr bod rhywun wedi'u torri nhw erbyn hyn.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Yn ddiarwybod o be' fyddai'n digwydd ar y diwrnod hwnnw, mwy na thebyg y byddwn i ar ryw lwyfan yn rwla yn perfformio. Mae rhan fwyaf o 'nyddiau i unai ar lwyfan neu mewn ystafell gerdd yn dysgu rhywbeth.

Ond, fel arall, mi fyswn i efo'r plant – y pump ohonyn nhw gobeithio.

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

O'n i wastad â diddordeb mawr yn yr enw Kyffin Williams – pam oedd pawb yn sôn am y gŵr hynaws yma? Roedd 'na raglenni teledu amdano fo, rhaglenni radio amdano fo.

Ar ddiwedd bod yn fyfyriwr, mi wnaeth Arfon Haines Davies fy ffonio i yn dweud bod 'na ocsiwn yn mynf i fod yn Llundain a bod un o ddarluniau Kyffin yn mynd i fod fyny. Mi ddywedodd ei fod o yn mynd at ryw bris ac ar ôl hynny y cawn i gymryd drosodd!

Aeth Arfon Haines Davies fyny at ryw £2500, a nes i adio rhyw £2000 ychwanegol a fi gafodd y darlun arbennig yna. A hwnnw oedd y cyntaf nes i brynu.

Wrth gwrs, nes i'm meddwl bod angen talu 10% yn ychwanegol hefyd am y fraint o gael prynu mewn ocsiwn.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Hoff lun Bryn Terfel: Ffermwr ar y Moelwyn gan Kyffin Williams

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Efallai 'swn i'n licio bod... ddim yn rheolwr, ond yn assistant manager, am ddiwrnod i Manchester United. Pam ddim?!