Apwyntio Mike Flynn fel rheolwr parhaol Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae Mike Flynn wedi ei apwyntio fel rheolwr parhaol Clwb Pêl-droed Casnewydd ar gytundeb dwy flynedd ar ôl llwyddo i'w cadw yn Adran Dau.
Ef sydd wedi bod wrth y llyw ers mis Mawrth, gan gadw'r clwb yn y gynghrair er ei bod yn edrych bron yn amhosib ychydig wythnosau yn ôl.
Roedd Casnewydd ar waelod yr adran pan gymrodd yr awenau ar ôl i Graham Westley gael ei ddiswyddo.
Ond llwyddodd y clwb i ennill saith o'r 12 gêm oedd yn weddill, gan achub eu hunain yng ngêm ola'r tymor ddydd Sadwrn gan drechu Notts County o 2-1.
Roedd cyfarwyddwr y clwb, Gavin Foxall wedi dweud wrth BBC Cymru ddydd Llun y byddai'n "anodd iawn" peidio apwyntio Flynn, 36, yn barhaol wedi iddo eu cadw yn y gynghrair.
Mae Casnewydd wedi cyhoeddi y bydd yr hyfforddwr Wayne Hatswell a'r cynghorwr Lennie Lawrence hefyd yn aros gyda'r clwb.
"Does dim yn fy ngwneud yn fwy balch na bod yn rheolwr clwb fy ninas enedigol," meddai Flynn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2017