Iechyd da!

  • Cyhoeddwyd
Label chwisgi Cymreig FrongochFfynhonnell y llun, Robin Maggs/Amgueddfa Sain Ffagan

Yr Alban neu Iwerddon falle, ond Cymru? Tra bod y cefndryd Celtaidd yn cael eu cydnabod fel arbenigwyr byd-eang ar gynhyrchu chwisgi, 'chydig iawn o sôn sydd wedi bod am y dylanwad Cymreig.

Yn ddiweddar, mae chwisgi o Gymru nôl ar y map diolch i ddistillfeydd Penderyn ar gyrion Bannau Brycheiniog a Dà Mhile ger Ffostrasol. Ond mae 'na wreiddiau dwfn i'r diwydiant yng Nghymru a'i ddylanwad yn cyrraedd pedwar ban byd.

Meddwi ar wleidyddiaeth

Fel mae'n digwydd, Cymro o Sir Benfro sydd wedi rhoi ei enw i un o ddiodydd chwisgi gorau'r byd

Cafodd Evan Williams ei fagu ym mhentref Dale ar arfordir Sir Benfro cyn symud i America ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Mae 'na awgrym ei fod wedi mudo i osgoi dylanwad y mudiad dirwestol yn ei famwlad, er nad oes tystiolaeth o hyn.

Yn Kentucky yn 1783, dechreuodd y Cymro alltud greu ei chwisgi, gan ddilyn rysáit lleol i Dale yn ôl rhai. O fewn dim roedd yn ddyn busnes llwyddiannus a mentrodd i'r byd gwleidyddol. Roedd e'n mynd â jwg o'i chwisgi i bob cyfarfod gwleidyddol roedd yn mynd iddo. Doedd 'na fawr o syndod bod y jwg yn wag ar ddiwedd y cyfarfodydd yma!

Ffynhonnell y llun, W. Marsh
Disgrifiad o’r llun,

Cofio gwaddol y Cymro Evan Williams yn Louisville, Kentucky

150,000 o alwyni

Ers y canol oesoedd, roedd math o chwisgi yn cael ei gynhyrchu gan dyddynwyr ar hyd a lled Cymru ond chafodd y ddiod ddim ei gynhyrchu yma yn fasnachol tan 1887.

Daeth saith o fasnachwyr gyda chysylltiadau â'r diwydiant diodydd yn Lloegr at ei gilydd i sefydlu'r Welsh Whisky Co. ym mhentref Frongoch ger Y Bala.

Yr unig Gymro tu ôl i'r fenter oedd sgweier lleol, R.J. Lloyd Price. Yn gyfleus iawn hefyd roedd Price yn gyfarwyddwr cwmni rheilffordd Corwen a Bala, felly roedd hi'n weddol hwylus i gludo'r cynnyrch gorffenedig i dafarndai a gwestai ymhob cwr o Loegr.

Ar ei anterth roedd y cwmni yn cynhyrchu 150,000 galwyn o chwisgi yn flynyddol ac roedd distyllfa Frongoch yn un o'r rhai mwyaf ym Mhrydain. Fe ymwelodd y Frenhines Fictoria gyda'r ddistyllfa ac yn ôl pob sôn roedd hi wedi cael blas ar y chwisgi ac fe gafodd y chwisgi warant brenhinol.

Yn anffodus, doedd 'na ddim digon o yfwyr yn cytuno 'da barn Ei Mawrhydi a buan y daeth y cynhyrchu i ben.

Cafodd y safle ei werthu yn 1900 am £5,000 i William Owen, gŵr busnes lleol. Ond ofer oedd ei ymdrechion e i ail sefydlu cynhyrchu chwisgi.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd yr adeiladau eu haddasu i fod yn garchar i filwyr Almaenig. Yma hefyd y cafodd rhai o arweinwyr yr IRA eu hanfon yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon yn 1916.

Disgrifiad o’r llun,

Y ddistyllfa yn Frongoch. Erbyn 1916 roedd y safle yn cael ei defnyddio i garcharu aelodau'r IRA fu'n rhan o Wrthryfel y Pasg

Ffynnon sych

Am weddill yr ugeinfed ganrif roedd y ffynnon chwisgi yng Nghymru yn sych tan sefydlu'r Welsh Whisky Company yn 2000.

O dan yr enw Penderyn, cafodd chwisgi masnachol cyntaf y ddistyllfa yn Rhondda Cynon Taf ei werthu am y tro cyntaf yn 2004. Erbyn hyn, mae distyllfa arall wedi agor yng ngorllewin Cymru, sef distyllfa Dà Mhile, ger pentref Ffostrasol.

Mae'r ffaith fod gan Gymru bellach ddwy ddistyllfa chwisgi masnachol, yn golygu bod y wlad yn cael ei chydnabod am y tro cyntaf erioed fel gwlad sy'n cynhyrchu chwisgi.

Mae 'na gynlluniau i agor distyllfa chwisgi arall yn Abergwyngregyn ger Bangor yn y dyfodol agos, felly mae'n ymddangos bod yna ddyfodol iach i'r diwydiant yng Nghymru.

Cofiwch, mae tipyn o ffordd i fynd i ddod yn agos at y 99 ddistyllfa chwisgi yn yr Alban. Dyfal donc.

Ffynhonnell y llun, Robin Maggs/Amgueddfa Sain Ffagan
Disgrifiad o’r llun,

Enghraifft prin o botel gyfan o chwisgi Cymreig Frongoch