'Cam ymlaen' i ynni llanw yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Bydd astudiaeth yn cael ei gynnal i ystyried cynlluniau am safle ynni llanw ger arfordir Sir Benfro.
Bydd y Pembrokeshire Demonstration Zone yn cynnal profion ar ynni llanw o hyd at 30MW (MegaWatt).
Fe fydd yr astudiaeth gan gwmni Black & Veatch yn cymryd naw mis, ac yn edrych ar fuddion posib i'r economi, a pha mor hyfyw yw'r cynllun yn fasnachol.
Fe dderbyniodd grŵp Wave Hub Ltd bron £325,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynnal yr astudiaeth.
Fe fydd y cynllun yn rhan o brosiect Marîn Doc Penfro i ddatblygu canolfan ar gyfer ynni morol, gan gynnwys cynhyrchu, profi a defnyddio'r dechnoleg.