Diwrnod sbeshial

  • Cyhoeddwyd

Mae cyplau'n chwilio am ffyrdd newydd a gwahanol i wneud eu priodasau a phartneriaethau sifil yn gymaint o achlysur i'r gwesteion ag ydyw i'r pâr sy'n priodi y dyddiau hyn. Yn hytrach na dilyn traddodiad, mae nifer ohonyn nhw'n defnyddio elfennau personol ac unigryw er mwyn ei wneud yn ddiwrnod arbennig.

Ym mis Hydref 2013, mewn seremoni yn Neuadd y Ddinas Caerdydd fe wnaeth Becky a Rhiannon Kemp-Davies uno mewn gwasanaeth partneriaeth sifil. Doedden nhw ddim am i'r diwrnod fod yn draddodiadol mewn unrhyw ffordd, ac mae Becky'n disgrifio diwrnod gorau ei bywyd fel "Eisteddfod swrreal".

Rhiannon a BeckyFfynhonnell y llun, Becky Davies
Disgrifiad o’r llun,

Rhiannon a Becky

"O'n ni wedi penderfynu nad oedden ni eisie' dim byd traddodiadol, dim byd rhy ffurfiol," meddai Becky.

"O ran ein gwisgoedd, fe wnaethon ni ddefnyddio ein hoff liwiau ni, a gan ei bod hi'n fis Hydref roedd ein ffrogiau ni'n hollol wahanol ac yn borffor, coch a burgundy.

"Dwi'n gynllunydd theatr a cafodd fy het i ei chreu'n arbennig, ac fe wnaethon ni benderfynu bod pawb yn gorfod dod mewn penwisg!"

Mae Becky yn aelod o gôr CF1 ac fe wnaeth aelodau'r côr berfformio cân wedi ei 'sgrifennu'n arbennig ar gyfer yr achlysur, yn y seremoni.

"Roedd y darn wedi cael ei gyfansoddi gan Eilir Owen Griffiths, a defnyddiodd fy hoff ganeuon dwi wedi eu canu gyda'r côr fel ysbrydoliaeth i'r gân, a cafodd y geiriau eu cyfansoddi gan Ifan Pleming.

"Dwy Galon oedd enw'r gân, ac mae'n unigryw yn yr iaith Gymraeg i fedru disgrifio partneriaeth rhwng dwy ferch fel 'dwy galon' gan bod calon yn air benywaidd.

"Mae'n dynodi'n berffaith taw dwy galon fenywaidd sy'n uno. Roedd y gân a'r geiriau yn hynod o brydferth."

Roedd Rhiannon a Becky yn benderfynol o gynnwys eu gwesteion yn rhan o'r diwrnod, a'u gwahodd i gyfrannu at y bwyd a'r adloniant.

Cor CF1 yn perfformio yn y seremoniFfynhonnell y llun, Becky Davies

"Roedd y wledd yng Nghanolfan Gelfyddydol The Gate ac fe ofynnon ni i bawb ddod â phlât o fwyd, neu i ganu cân neu i wneud perfformiad. Roedd 'na open mic ac roedd e fel parti mawr celfyddydol, fel Eisteddfod swrreal!

"Mae ganddon ni deulu Cymraeg anferth a llwyth o ffrindiau creadigol ac o'n ni eisiau iddyn nhw fedru cyfrannu. Roedd 'na meim, comedi, caneuon o sioeau cerdd, côr a rhai yn adrodd.

"Beth o'n ni eisiau oedd bod pawb yn teimlo eu bod nhw'n rhan o'r diwrnod ac yn rhan o'n bywydau ni.

"Roedd pawb wedi ymlacio a mwynhau ac mae sawl un wedi dweud wrtha' i mai dyma'r briodas orau maen nhw erioed 'di bod ynddi!"

Sian, Bryn a Wil IfanFfynhonnell y llun, Whole Picture
Disgrifiad o’r llun,

Bryn, Sian a'u mab Wil Ifan

Godro'r syrpreisys!

Mewn Eglwys yn Ystrad Aeron ger Aberaeron y priododd Sian a Bryn Williams ym mis Ebrill eleni.

Er ei bod hi'n ymddangos yn briodas draddodiadol ar yr olwg gyntaf, roedd pob elfen o'r diwrnod wedi ei gynllunio'n ofalus i ddangos personoliaeth ac i fod yn unigryw, gyda sawl stynt a syrpreis.

"Bydden i'n disgrifio'r briodas fel un bersonol, llawn adloniant a llawn bwrlwm, ac roedd 'na sawl peth unigryw a sawl syrpreis hefyd!" meddai Sian.

"Ro'n ni eisiau i ffrindiau a theulu fod yn rhan fawr o'r dydd, i'w wneud e'n sbeshial i ni ac yn ddiwrnod ffantastig."

Mae cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn yn gallu chware rhan yn y diwrnod hefyd, ac mae'r adloniant ar y dydd yn gallu cael ei fwynhau gan filoedd o bobl, sydd ddim yn y briodas ei hun.

Mae fideo o berfformiad yng ngwasanaeth priodas Sian a Bryn ar Facebook wedi denu 18 mil o wylwyr hyd yn hyn., dolen allanol

"Fe wnaeth Meleri, chwaer Bryn, gyfansoddi cân a gafodd ei pherfformio gan Lisa fy chwaer, Meleri, Geraint y gwas priodas a bois Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsian, gydag Eilir brawd Bryn ar y drwms.

"O'n i'n gwbod bo' nhw'n bwriadu 'neud rhywbeth ond o'dd e'n syrpreis llwyr i weld y symudiadau a'r sbort.

"Dim ond y noson gynt o'n nhw wedi penderfynu 'neud y symudiadau, ond ma' nhw'n griw hyderus ac yn joio rhoi sioe 'mlaen! Ma' nhw'n gymaint o strabs!

"D'yn ni ddim yn gallu credu faint o ymateb mae'r fideo wedi ei gael ar Facebook, mae'n anhygoel!

"Mae Bryn yn lot fwy cyfforddus yn canu nag yn siarad yn gyhoeddus, felly fe wnaeth e ganu ei araith briodas i fi - odd hwnna'n sioc fawr i fi ac yn sbeshial iawn hefyd," meddai Sian am ei gŵr sy'n aelod o'r band Newshan.

Ond daeth y sioc fwya' ar ôl y wledd, rhywbeth na welwyd mo'i debyg mewn priodas o'r blaen.

Welsoch chi'r ffriesian beth!Ffynhonnell y llun, Sian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Welsoch chi'r ffriesian beth!

"Y syrpreis fwya' i fi a Bryn oedd pan wnaeth buwch droi lan yn y wledd briodas! O'n i ffili credu'r peth.

"O'dd Geraint y gwas priodas wedi dweud mai ei bresant priodas i ni oedd llo o'i ffarm e, ond wnaethon ni ddim disgwyl y stynt a ddigwyddodd.

"Mae Llŷr, un o'r gwesteion yn ffarmwr ac yn arwerthwr ac fe wnaeth e a chriw o'r bois greu esgus 'ocsiwn' yn y reception, a'r fuwch yn cerdded rownd y byrddau! O'dd hwnna'n bendant yn elfen o syrpreis - i ni a'r gwesteion - ac yn adloniant i bawb!

"Pan y'n ni'n dau yn meddwl nôl am ein diwrnod ni, ni ffili credu pa mor bersonol oedd e a faint o ymdrech wnaeth ein teulu a ffrindiau i wneud y dydd yn sbeshial i ni. R'yn ni mor hapus, yn sicr y diwrnod gore' erioed."