Mwy yn defnyddio ffôn wrth yrru er y cosbau llymach
- Cyhoeddwyd
Roedd cynnydd yn nifer y bobl gafodd eu dal yn defnyddio ffôn symudol wrth yrru yng Nghymru ym mis Mawrth, er i gosbau llymach gael eu cyflwyno.
Ers 1 Mawrth mae gyrwyr yn wynebu cosb o chwe phwynt ar eu trwydded a dirwy o £200 am ddefnyddio eu ffôn.
Cyn hynny, tri phwynt a dirwy o £100 oedd y gosb.
Ond mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 166 o yrwyr wedi eu dal yn defnyddio ffôn wrth yrru ym mis Mawrth - cynnydd o'r 137 gafodd eu dal ym mis Chwefror.
Dywedodd ymgyrch Handsoff bod defnyddio ffôn wrth yrru yn "gymysgedd marwol".
'Gwaharddiad llwyr'
Dywedodd Lucy Amos o elusen diogelwch ffyrdd, Brake, ei bod yn "amser bod yn fwy llym gyda'r rheiny sy'n torri'r gyfraith".
"Mae'r gyrwyr yma yn rhoi eu bywydau eu hunain a phobl eraill mewn perygl enfawr," meddai.
"Rydyn ni eisiau gweld gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio ffonau - mae hyd yn oed defnyddio dyfais lawrydd yn cynyddu'r siawns o gael gwrthdrawiad.
"Y sgwrs yw'r peth sy'n cymryd eich sylw."
Dywedodd Mobile UK, sy'n cynrychioli cwmnïau ffôn y DU, ei fod yn "gefnogol o fesurau'r llywodraeth i leihau defnydd ffonau symudol wrth yrru".