Emoji baner Cymru ar gael i'w defnyddio am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae emoji baner Cymru wedi cael ei gyhoeddi ac ar gael i'w defnyddio am y tro cyntaf.
Cafodd yr emoji sêl bendith gan Unicode, y corff rhyngwladol sy'n eu datblygu, yn gynharach eleni.
Fe wnaeth Unicode gytuno i ychwanegu baneri Cymru, Yr Alban a Lloegr yr un pryd.
Ni chafodd baner Gogledd Iwerddon ei hystyried gan nad oes ganddi statws swyddogol.
Mae gan gwmnïau megis Apple, Google, Microsoft a Facebook nawr y dewis o'u hychwanegu i'w systemau.
Cafodd yr ymgyrch i sefydlu emoji baneri gwledydd Prydain ei ddechrau gan Jeremy Burge o Emojipedia a phennaeth cyfryngau cymdeithasol BBC Cymru, Owen Williams.
Mae'n bosib na fydd modd gweld yr emoji newydd ar rai cyfrifiaduron a ffonau symudol ar hyn o bryd fodd bynnag, yn dibynnu ar ba systemau sy'n eu gweithredu.