Ar-lein, ar ei hôl hi?
- Cyhoeddwyd
Oes yna beryg i ni anghofio am y genhedlaeth hŷn wrth i bawb fynd ar-lein?
Mae Iwan Williams, sy'n gweithio ar ran pobl hŷn yn ei swydd o ddydd i ddydd, yn credu y dylai mwy gael ei wneud i sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed dros sŵn cynyddol Snapchat, Whatsapp, Twitter a Facebook:
Cael eu gadael ar ôl?
Mae technolegau digidol yn dal i gynyddu ac yn achosi i'r byd newid yn gyflym.
Rydym yn aml yn cymryd y cyfleoedd sydd gennym i fancio neu siopa ar-lein yn ganiataol, neu i ddefnyddio'r rhyngrwyd i siarad â pherthynas sydd ym mhen draw'r byd.
Er bod gweithgareddau o'r fath yn prysur ddod yn rhai cyffredin ac yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl, mae 'na ddisgwyliad i bobl wneud mwy o bethau ar-lein.
Ond mae'r datblygiadau yma'n gadael cyfran sylweddol o'r bobl hŷn y tu ôl.
Mae dros draean o'r bobl sydd dros 50 oed yng Nghymru yn cael eu hallgáu'n ddigidol a dydyn nhw ddim yn defnyddio gwasanaethau ar-lein.
Mae rhai pobl yn dewis hyn, ond mae gan bobl eraill resymau gwahanol dros beidio â bod yn rhan o'r chwyldro digidol, fel tlodi neu ddiffyg cyfleoedd i ddefnyddio cyfrifiaduron a thechnoleg ddigidol.
Dyma enghraifft dda o berson hŷn yn cael ei adael ar ôl.
Cysylltodd dynes â'n tîm ar ôl cael llythyr gan gwmni ariannol yn rhoi cyfarwyddiadau iddi ar gyfer diweddaru ei manylion ar-lein.
Ar ôl iddi egluro nad oedd hi'n defnyddio cyfrifiaduron, dywedodd y cwmni ariannol bod modd iddi ddiweddaru ei manylion drwy lenwi ffurflen bapur. Ond er mwyn gwneud cais am ffurflen, byddai angen iddi gysylltu â'r cwmni... drwy anfon e-bost!
Dyma'r math o heriau sy'n wynebu llawer o bobl hŷn yng Nghymru, ac mae'r rheini nad ydynt ar-lein yn dioddef o wahaniaethu.
Mae pobl hŷn sydd ddim yn defnyddio technoleg ddigidol yn cael eu hamddifadu o fuddion ac arbedion ariannol am eu bod yn defnyddio dulliau traddodiadol o fancio a masnachu.
Mae ymchwil yn awgrymu bod pobl hŷn yn talu pris uchel am beidio â defnyddio gwasanaethau digidol: mae aelwydydd sydd ddim ar-lein yn colli allan ar arbedion o hyd at £560 y flwyddyn gan eu bod nhw ddim yn siopa a thalu biliau ar-lein.
Mae nifer o gwmnïau hefyd yn cael gwared ar lythyrau, rhifau ffôn ac adeiladau ffisegol yn raddol, gan symud at wasanaethau a rhyngweithio digidol yn unig.
Mae hyn yn gadael rhai pobl hŷn mewn sefyllfa anodd iawn, ac yn gwneud iddynt deimlo'n rhwystredig oherwydd y diffyg empathi, y diffyg parch a'r diffyg dealltwriaeth sy'n cael ei arddangos gan rai cwmnïau.
Cyfleoedd dysgu digidol
Does yna ddim amheuaeth y gall technolegau digidol wneud gwahaniaethau cadarnhaol i fywydau pobl hŷn.
Mae'r gallu i siarad â ffrindiau neu deulu mewn rhannau eraill o'r byd, neu i ddatblygu diddordebau neu hobïau newydd drwy ddefnyddio technoleg ddigidol, yn gallu helpu i leihau unigrwydd ac ynysiad, er enghraifft.
Hefyd, wrth ymgymryd â chyfleoedd i ddefnyddio technoleg ddigidol, gall pobl hŷn ennill sgiliau a chymwysterau newydd a all eu helpu i aros yn y gwaith neu ddychwelyd i weithio.
Mae llawer o waith da yn cael ei wneud ledled Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth o fanteision technolegau digidol ac i annog pobl hŷn i fynd ar-lein.
Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru yn darparu Cymunedau Digidol Cymru, sy'n darparu hyfforddiant cynhwysiant digidol am ddim i bobl hŷn ac yn sicrhau eu bod nhw'n hyderus wrth ddefnyddio technolegau digidol.
Yn yr un modd, mae Banc Barclays yn darparu cymorth a chefnogaeth ymarferol i bobl hŷn fynd ar-lein drwy ei raglen Eryrod Digidol.
Er bod mentrau fel hyn yn cael eu croesawu, mae'n hanfodol bod unigolion yn cael cymaint o ddewis â phosib o ran y cyfleoedd dysgu digidol sydd ar gael iddyn nhw.
Ond mae hi hefyd yn hanfodol bod y bobl hŷn sydd ddim am ddefnyddio gwasanaethau digidol yn gallu ymgysylltu'n llawn â gwasanaethau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat drwy ddulliau traddodiadol sydd ddim yn ddigidol.
Dylai bobl hŷn ddim cael eu cosbi am beidio â defnyddio technoleg ddigidol. Dylai cwmnïau ddeall a pharchu hynny am na all Cymru fforddio cael cyfran sylweddol o'i phobl hŷn wedi'u gwthio i'r ochr ac yn destun gwahaniaethu.
Mae'r chwyldro digidol yn newid ac yn gwella bywydau llawer o bobl. Ond mae'n hanfodol fod y symudiad tuag at dechnoleg ddigidol ddim yn cael effaith negyddol ar fywydau pobl hŷn.
Wrth i'r daith ddigidol yng Nghymru barhau, dylai'r egwyddor arweiniol ganolbwyntio ar sicrhau bod gan bobl hŷn lais sy'n cael ei glywed, a bod ganddyn nhw ddewis a rheolaeth.