Pryder fod lleoliadau prysur yn troi'n 'rhy boblogaidd'

  • Cyhoeddwyd
Rhaeadr y BedolFfynhonnell y llun, Stephen Craven / Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth nifer yr ymwelwyr â Rhaeadr y Bedol ger Llangollen gynyddu bron i 3,700 y llynedd

Mae rhai o ardaloedd twristaidd gogledd Cymru yn troi'n llefydd "sydd yn rhy boblogaidd er lles eu hunain" yn ôl adroddiad.

Mae adroddiad gan y bartneriaeth sy'n darparu cyfeiriad ar gyfer twristiaeth yn ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn dangos bod niferoedd yr ymwelwyr wedi cynyddu yn 2016/17.

Mi allai hynny, meddent, gael "effaith niweidiol" ar y tirwedd.

Mae astudiaeth yn cael ei chynnal i weld os oes modd gostwng y niferoedd yn ystod amseroedd prysur.

Bydd yr astudiaeth hefyd yn archwilio a os oes modd symud y llif twristiaeth i ardaloedd eraill cyfagos.

Mae'r adroddiad yn dangos bod 111,401 o bobl wedi ymweld â Rhaeadr y Bedol ger Llangollen llynedd, i gymharu gyda 107,707 yn 2015/16 yn dilyn gwelliannau mynediad.

Roedd cynnydd o bron i 1,500 o bobl hefyd yn y nifer wnaeth ymweld â Phen y Pigyn sy'n edrych dros Gorwen ac fe wnaeth 22,626 ymweld â maes parcio Clawdd Offa i gymharu gyda 11,544 y flwyddyn flaenorol.

Bydd Cyngor sir Ddinbych yn trafod canfyddiadau'r adroddiad ddydd Gwener.