Canfod carneddau ger safle hynafol Bryn Celli Ddu
- Cyhoeddwyd

Mae carneddau yn dyddio nôl i ddiwedd Oes y Cerrig a dechrau'r Oes Efydd wedi eu canfod ger siambr gladdu hynafol ar Ynys Môn.
Mae siambr gladdu Bryn Celli Ddu, sydd tua 5,000 mlwydd oed, yn adnabyddus am gael ei hadeiladu i gyd-fynd â safle'r haul, gyda'r pelydrau yn goleuo'r siambr ar ddiwrnod hiraf y flwyddyn.
Nawr mae astudiaeth newydd wedi awgrymu fod y siambr yn fwy nag yr oedd archeolegwyr yn ei feddwl.
Dywedodd ymchwilwyr eu bod yn "gyffrous iawn" gyda'r canfyddiad, gan ei fod yn "rhywbeth doedden ni heb ei amau gynt".

Daw hynny yn dilyn gwaith cloddio gan Cadw ac ymchwilwyr o Brifysgol Fetropolitanaidd Manceinion a Phrifysgol Canolbarth Sir Gaerhirfryn.
Cafodd y carneddau newydd - pentwr o gerrig wedi eu hadeiladu fel cofeb neu arwyddnod - eu canfod ar hyd cribyn y tu ôl i Fryn Celli Ddu.
Dywedodd Dr Ben Edwards o Brifysgol Fetropolitanaidd Manceinion fod eu hymchwil yn "codi'r posibiliad o fynwent carneddau yn amgylchynu'r beddrod gwreiddiol".
Ychwanegodd Dr Ffion Reynolds o Cadw: "Ers i ni ddechrau'r prosiect yma rydyn ni wedi darganfod nad oedd Bryn Celli Ddu erioed yn safle ynysig, bod gweithgareddau yn digwydd o'i chwmpas.
"Roedden ni'n gwybod y byddai hwn yn brosiect da, ond mae wedi troi allan i fod yn un cyffrous iawn."