Trychineb Hillsborough: Tystiolaeth i gyhuddo chwech
- Cyhoeddwyd

Bu farw 96 o bobl o ganlyniad i'r trychineb
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhoeddi bod digon o dystiolaeth i gyhuddo chwech o bobl o ganlyniad i drychineb Hillsborough yn 1989.
Yn eu plith mae David Duckenfield, cyn-brif uwch-arolygydd fydd yn wynebu cyhuddiad o ddynladdiad 95 o bobl drwy esgeulustod difrifol.
Bu farw 96 o bobl o ganlyniad i'r trychineb, ond ni fydd modd dod ag achos yn enw un ohonynt - Tony Bland - oherwydd rhesymau cyfreithiol gan iddo ef farw pedair blynedd ar ôl y digwyddiad.
Fe ddigwyddodd y trychineb mewn gêm bêl-droed rhwng Lerpwl a Nottingham Forest yn Stadiwm Hillsborough yn Sheffield.
Y llynedd daeth cwest i farwolaethau'r cefnogwyr i'r casgliad eu bod wedi'u lladd yn anghyfreithlon.

Dau Gymro
Roedd dau Gymro ymysg y meirw, John McBrien o Dreffynnon a David Brown, oedd yn cael ei adnabod fel Steve Brown, o Holt, ger Wrecsam.
Ar ôl y cyhoeddiad gan Gwasaneth Erlyn y Goron, dywedodd Joan Hope, mam John McBrien, ei bod hi yn siomedig na fydd mwy o bobl yn cael eu herlyn.
Roedd wedi bod yn aros am gyfiawnder am 28 mlynedd, meddai, a bod hynny wedi cael effaith ofnadwy ar y teulu.
"Dwi'n meddwl am John bob diwrnod o fy mywyd.
"Rwyf wedi rhoi'r gorau i geisio cyfiawnder, bydd yn rhaid i mi dderbyn anghyfiawnder."
Ond dywedodd gweddw Steven Brown ei bod hi'n bles gyda'r penderfyniad i erlyn, gan ychwanegu ei fod wedi cymryd amser hir.
"Hwn oedd y penderfyniad roedd y teuluoedd eisiau oherwydd mae'r mater wedi ei basio o un lle i'r llall, i fod yn onest doeddwn ddim yn credu y byddwn yn cael penderfyniad o'r fath."

Cyn i Wasanaeth Erlyn y Goron allu gosod cyhuddiadau yn erbyn Mr Duckenfield, y plismon oedd yn gyfrifol am reoli trefniadau ar ddiwrnod y gêm, bydd yn rhaid gwneud cais i'r Uchel Lys i godi gwaharddiad llys.
Cafodd y gwaharddiad ei osod ar ôl erlyniad preifat yn erbyn y cyn-blismon yn 1999.

Bu farw dau Gymro - John McBrien a David Brown - yn y trychineb
Yn ogystal â Mr Duckenfield fe fydd y cyn-Brif Gwnstabl, Sir Norman Bettison, yn wynebu pedwar cyhuddiad o gamymddygiad mewn swydd gyhoeddus, cyhuddiadau yn ymwneud â honiadau iddo ddweud celwyddau ynglŷn â chefnogwyr.
Bydd Graham Mackrell, cyn-ysgrifennydd Sheffield Wednesday, yn wynebu cyhuddiad o dorri rheolau Iechyd a Diogelwch.
Mae Peter Metcalf, cyfreithiwr oedd yn cynrychioli Heddlu De Sir Efrog, yn wynebu cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn ymwneud â newid tystiolaeth llygad-dystion.
Mae Donald Denton, cyn-brif uwch-arolygydd, ac Alan Foster, cyn-brif dditectif wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

David Duckenfield oedd y plismon oedd yn gyfrifol am reoli trefniadau ar ddiwrnod y gêm
Fe fydd y diffynyddion, ac eithrio Mr Duckenfield, yn ymddangos ger Ynadon Warrington ar 9 Awst.
Cafodd teuluoedd y rhai a fu farw yn Hillsborough wybod am y camau diweddaraf mewn cyfarfod preifat gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron fore Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2016