Menai y Crwban yn gwella yn Gran Canaria

  • Cyhoeddwyd
'Menai' y crwban yn Sŵ MôrFfynhonnell y llun, Sŵ Môr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Menai y Crwban ei darganfod ar draeth ar Ynys Môn nôl ym mis Tachwedd

Mae Crwban môr trofannol gafodd ei ddarganfod mewn cyflwr difrifol ar lan afon Menai ar Ynys Môn wedi cymryd cam pellach at gael ei ryddhau yn nôl i'r gwyllt.

Mae Menai y crwban wedi bod dan ofal Sŵ môr ar yr Ynys ers cael ei ddarganfod nôl ym mis Tachwedd llynedd.

Bellach mae'r crwban môr pendew 'Kemp' neu 'Olive Ridley' wedi cyrraedd ynys arall, Gran Canarïa, mewn lloches arbennig i grwbanod ble bydd yn treulio'r mis nesaf cyn cael ei dychwelyd i'r gwyllt.

Pan gafodd Menai ei darganfod dywedodd fil feddygon ei "bod yn lwcus i fod yn fyw"

Mae Crwbanod o'r fath i'w cael fel arfer mewn moroedd cynnes a throfannol ger Mecsico a de'r UDA, a dydyn nhw ddim fel arfer yn goroesi mewn dyfroedd oerach o gwmpas Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y biolegydd môr, Frankie Hobro bod "Menai i weld yn hapus iawn."

Dywedodd y biolegydd mor, Frankie Horbro fu'n gofalu am Menai yng Nghymru:

"Mae'r cyfleusterau yn Gran Canarïa yn rhai arbenigol gyfer Crwbanod ble maen nhw'n cael eu hadfer a'u rhyddhau yn ôl i'r gwyllt.

"Ar y cyfan mae hi'n edrych yn hapus iawn yma", meddai.

Ar ôl gwella bydd Menai yn cael ei thagio gyda sglodyn ble fydd modd ei dilyn gyda lloeren a bydd hi'n dychwelyd i'w chynefin naturiol.