Cynllun peilot teithio ar fws am ddim ar y penwythnos
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion y cynllun i gynnig teithiau bws am ddim ar benwythnosau ledled Cymru.
Mae'r cynllun peilot yn berthnasol i holl fysiau rhwydwaith TrawsCymru a bydd ar gael bob penwythnos, o ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf tan fis Mai 2018.
Dywedodd Ken Skates, ysgrifennydd yr economi, ei fod yn gynllun sy'n "torri tir newydd" ac wedi'i gynllunio i roi hwb i gyrchfannau ac atyniadau twristiaeth.
Fodd bynnag, mae rhai cwmnïau bychan wedi mynegi pryder y byddan nhw ar eu colled oherwydd y cynllun.
£1m i'r fenter
Mae cyllideb o £1m o bunnau wedi'i neilltuo ar gyfer y fenter.
Dywedodd Mr Skates: "O Fangor i Gaerdydd, Abergwaun a Wrecsam, rwy'n gobeithio bydd y cynllun hwn yn rhoi'r esgus perffaith i bobl ar draws Cymru a thu hwnt i neidio ar fws ac i dreulio eu penwythnosau yn mwynhau harddwch Cymru.
"Mae'r gwasanaeth am ddim yn dibynnu a fydd yna le ond ry'n ni wedi darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i sicrhau bod mwy o fysiau ar gael petai angen."
Pa wasanaethau sydd wedi'u cynnwys?
Mae'r cynllun peilot yn berthnasol i bob bws sy'n rhan o rwydwaith TrawsCymru
TrawsCymru T1 Aberystwyth - Llambed - Caerfyrddin (teithio saith diwrnod yr wythnos)
TrawsCymru T1C Aberystwyth - Llambed - Caerfyrddin - Abertawe - Caerdydd (gwasanaeth dyddiol heblaw ar y Sul)
TrawsCymru T2 Bangor - Porthmadog - Dolgellau - Aberystwyth (teithio saith diwrnod yr wythnos)
TrawsCymru T3 Wrecsam - Llangollen - Dolgellau - Y Bermo (teithio saith diwrnod yr wythnos)
TrawsCymru T4 Y Drenewydd - Aberhonddu - Merthyr Tudful - Pontypridd - Caerdydd (teithio saith diwrnod yr wythnos)
TrawsCymru T5 Aberystwyth - Ceinewydd - Aberteifi - Abergwaun - Hwlffordd (teithio saith diwrnod yr wythnos ond dim ond ar Suliau yn yr haf)
TrawsCymru T6 Aberhonddu - Ystradgynlais - Castell-nedd - Abertawe (teithio saith diwrnod yr wythnos)
Maes Awyr Caerdydd T9 (teithio gydol yr wythnos - saith diwrnod yr wythnos)
Mae gan y Llywodraeth gynlluniau i ddigolledu cwmnïau bysiau eraill petaent yn denu llai o gwsmeriaid o ganlyniad i'r cynllun peilot. Gobaith Llywodraeth Cymru, serch hynny, yw y bydd mwy o bobl yn mynd ar fysiau.
Ond dadlau mae'r cwmnïau bysiau bach, er hynny, nad yw'r Llywodraeth wedi cynnal trafodaethau gyda nhw ac mae rhai yn poeni am eu dyfodol. Yn eu plith mae Mel Evans o gwmni Mid Wales Travel, Aberystwyth.
Mae'r cynllun yn weithredol tan fis Mai 2018.