AS: Etholiad 2017 y mwyaf annifyr 'o bellffordd'

  • Cyhoeddwyd
Dadl
Disgrifiad o’r llun,

Bu ASau yn trafod yr hyn mae gwleidyddion ac ymgeiswyr yn ei ddiodde' pan yn ymgyrchu ddydd Mercher

Etholiad cyffredinol mis Mehefin oedd y mwyaf annifyr "o bellffordd" yn y blynyddoedd diwethaf, yn ôl un AS o Gymru.

Roedd David Jones, sy'n cynrychioli Gorllewin Clwyd, yn siarad mewn dadl yn San Steffan am sarhau gwleidyddion.

Roedd y drafodaeth dan arweiniad AS Ceidwadol arall, Simon Hart, a ddywedodd bod ar ymgeiswyr ofn ymgyrchu oherwydd yr ymateb posib.

Fe gyhoeddodd y prif weinidog yn ystod y prynhawn y bydd adolygiad i'r mater dan ofal y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus.

Heddlu'n ymchwilio

Dywedodd Mr Jones wrth ASau ei fod yn credu bod rhywun yn "cydlynu" ymgyrchoedd i sarhau gwleidyddion ac ymgeiswyr.

Fe ychwanegodd bod Twitter yn lle "cwbl anghymdeithasol" a bod gan y cwmni "gwestiynau i'w hateb".

Yn y cyfamser, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod ymchwiliad wedi dechrau ar ôl iddyn nhw dderbyn cwyn gan AS arall o Gymru.

Mae Guto Bebb, AS Aberconwy, yn honni iddo dderbyn bygythiadau ar-lein gan un o swyddogion yr heddlu.

Dywedodd yr heddlu bod yr AS wedi darparu gohebiaeth a bod ymchwiliad yn digwydd.

Ffynhonnell y llun, Facebook / Emily Owen
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Emily Owen gwyno ar Facebook am y negeseuon roedd hi wedi ei dderbyn yn ystod yr ymgyrch

Cyn y ddadl, dywedodd yr AS Llafur, Paul Flynn fod yn rhaid cofio bod ymgeiswyr a gwleidyddion o bob plaid yn cael eu targedu.

Ychwanegodd ei bod hi'n "well anwybyddu" sylwadau sarhaus, a chymryd camau "synhwyrol" os oes "bygythiad difrifol o drais".

Un wnaeth ddioddef sylwadau sarhaus am ei rhyw yn ystod yr ymgyrch etholiadol oedd Emily Owen, ymgeisydd Llafur yn Aberconwy.

Roedd rhai o'r sylwadau, meddai, yn "fygythiadau yn agos at fod yn fygythiadau i dreisio".

"Mae'n ffiaidd, hollol ffiaidd. Mae angen cael neges fawr yn dweud dyw hyn ddim yn iawn, dyw e'n bendant ddim yn normal," meddai wrth BBC Radio Wales.

Ychwanegodd fodd bynnag nad oedd y profiad wedi ei hannog i beidio sefyll fel ymgeisydd yn y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Simon Hart AS fod bron i hanner ei bosteri ymgyrchu wedi eu hanharddu, eu difrodi neu eu dwyn

Cyn y drafodaeth, fe rybuddiodd Mr Hart bod ymgeiswyr ac ymgyrchwyr yn cael eu "gyrru i ffwrdd o wleidyddiaeth" oherwydd eu bod nhw'n cael eu sarhau.

Ychwanegodd ei fod eisiau i wefannau cymdeithasol ofyn "cwestiynau dwys" i'w hunain am sut oedden nhw'n gwarchod pobl rhag cael eu sarhau ar-lein.

Dywedod hefyd fod angen adolygu'r ddeddfwriaeth, gan ddweud fod llawer ohono "yn dyddio 'nôl canrifoedd cyn i gyfryngau cymdeithasol fodoli".