'Dim argyfwng' yn wynebu'r cyfryngau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Dyw'r cyfryngau yng Nghymru ddim yn wynebu argyfwng, yn ôl pennaeth papurau newydd mwyaf y de.
Ond dywedodd Paul Rowland, prif olygydd Trinity Mirror South Wales, ei fod "wastad yn awyddus i ganfod ffyrdd o gryfhau'r cyfryngau yng Nghymru".
Ychwanegodd fod diffyg dealltwriaeth o ran gallu'r cyhoedd i wahaniaethu rhwng gwleidyddiaeth San Steffan a'r Cynulliad.
Fe fydd adeg hefyd yn dod, meddai, pan na fydd papurau newydd yn "rhan fawr o'r cyfryngau yng Nghymru".
'Lle i straeon ysgafn'
Mae Mr Rowland yn gyfrifol am bapurau'r Western Mail, South Wales Echo a'r South Wales Evening Post, yn ogystal â gwefan Wales Online - rhywbeth a ddywedodd oedd yn "llwyddiant mawr".
"Mae ein cynnyrch print ar hyn o bryd yn rhan bwysig o'n busnes. Rydw i eisiau iddyn nhw fod yn rhan o'n busnes mor hir â phosib," meddai wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad.
"Gobeithio fod y dydd pan nad yw papurau newydd yn rhan fawr o'r cyfryngau yng Nghymru ddim yn dod am sbel eto, ond pan 'dych chi'n edrych ar y tueddiadau, byddai'n rhaid dweud ei fod am ddod rhyw ddydd."
Ychwanegodd fod ei gwmni'n bwriadu cryfhau'r wefan "fel bod modd i ni fod yn gyhoeddwr o bwys pan ddaw'r diwrnod hwnnw".
Wrth gael ei holi ar y cynnwys ysgafnach ar wefan Wales Online, dywedodd ei fod yn credu "yn bendant" fod lle i straeon "sydd ddim hollol o ddifrif".
"Os 'dyn ni i gyd yn meddwl am y pethau rydyn ni'n ei weld a'i ddarllen, bydd adegau pan 'dyn ni'n darllen straeon difrifol iawn ac adegau eraill pan 'dyn ni'n darllen pethau sy'n diddanu.
"Rydyn ni wedi buddsoddi'n sylweddol yn ein gohebu gwleidyddol, sicrhau bod sylw digonol i'r rheiny, a'i wneud mewn ffordd sy'n berthnasol i'n cynulleidfa ddigidol.
"Mae'n hawdd dewis un neu ddwy erthygl a dweud 'dydych chi ddim yn gwneud unrhyw beth o sylwedd achos fe wnaethoch chi hyn neu'r llall'. Ond mae hynny'n ffordd mor gul o edrych ar ein cynnwys, mae bron yn ddibwys."