Network Rail yn lansio ymgyrch diogelwch croesfannau

  • Cyhoeddwyd
Croesfan Bermo
Disgrifiad o’r llun,

Mae rheilffordd y Cambria yn rhedeg drwy ganol tref y Bermo

Mae Network Rail wedi lansio ymgyrch yn rhybuddio rhieni, plant a phobl ifanc ynglŷn â pheryglon croesfannau ar y rheilffyrdd.

Gyda thywydd braf misoedd yr haf yn cyd-fynd â thymor y gwyliau, mae achosion o bobl bron â chael eu taro gan drenau ar gynnydd.

Dros y pum mlynedd diwethaf, bu bron i bobl ifanc gael eu taro ar 2,000 o achlysuron, yn ôl ffigyrau gan Network Rail.

Mae'r rhain yn cynnwys pobl yn gwrando ar gerddoriaeth ac yn defnyddio eu ffonau heb ganolbwyntio ar groesi'r cledrau.

Dywedodd pennaeth diogelwch cyhoeddus Network Rail, Allan Spence: "Mae nifer o bobl yn ymwybodol o bethau sy'n mynd â sylw gyrwyr, ond mae hi'n sefyllfa bryderus fod cymaint o bobl ifanc yn cyfaddef i roi eu hunain mewn perygl diangen drwy beidio â chanolbwyntio wrth groesi rheilffordd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Parry yn dweud bod nifer o blant Ysgol y Traeth, Bermo yn cerdded dros y groesfan er mwyn cyrraedd yr Ysgol

Mae disgyblion Ysgol y Traeth yn y Bermo, Gwynedd, yn hen gyfarwydd â chroesi rheilffordd y Cambrian yn ddyddiol.

Mae'r ysgol yn gweithio'n agos gyda Network Rail i addysgu'r disgyblion a diogelwch ar y rheilffyrdd.

Dywedodd Angharad Parry, sy'n athrawes yn Ysgol y Traeth: "Rydym yn cydweithio efo Network Rail i addysgu'r plant.

"Rydym yn ceisio cael Network Rail yma unwaith y flwyddyn i wneud sesiwn ar beth i wneud o gwmpas y rheilffordd a hefyd y peryglon a beth allai fynd o'i le."

Bydd Network Rail yn buddsoddi £100m i wella diogelwch ar groesfannau ar hyd y DU.

Ychwanegodd Mr Spence: "Rydym yn buddsoddi i wella diogelwch ar groesfannau fel rhan o gynllun uwchraddio rheilffyrdd, ond rydym hefyd angen i bobl wneud eu rhan drwy ganolbwyntio ar y rhybuddion ar groesfannau".