Diwedd cyfnod i gofiadur yr Orsedd, Penri Roberts
- Cyhoeddwyd
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn gweld diwedd cyfnod i'r Orsedd, wrth i'r cofiadur Penri Roberts gamu o'r neilltu ar ôl bron i wyth mlynedd yn y rôl.
Y cofiadur sy'n llywio gwaith yr Orsedd, a hefyd yn gyfrifol am drefniadau'r seremonïau ar lwyfan y Brifwyl.
Mae wedi bod yn y rôl ers Ionawr 2010, pan olynodd y Prifardd John Gwilym.
Yn edrych 'nol ar ei gyfnod fel cofiadur, mae Mr Roberts yn sicr iawn am y datblygiad pwysicaf yn ei amser wrth y llyw.
'Pawb ar yr un gwastad'
"Dwi'n meddwl mai'r peth pwysicaf sydd wedi digwydd yn fy nghyfnod i oedd sicrhau ein bod yn newid trefn yr urddai - ein bod wedi dod â phawb i'r un gwastad," meddai wrth Cymru Fyw.
"Er nad oedd o'n fwriadol, roedd 'na ryw fath o wahaniaeth rhwng y lliwiau. Roedd 'na Urdd Ofydd ac Urdd Dderwydd, ac roedd 'na deimlad bod rhai pobl yn bwysicach nag eraill.
"Do'n i a phobl eraill ddim yn hapus efo hynny, wedyn ddaru ni dreulio blwyddyn yn edrych ar sut fedrwn ni ei unioni.
"Chwarae teg, aeth o drwy'r cyfarfod cyffredinol bod pawb o hynny 'mlaen yn Dderwydd.
"Roedden ni wedi newid hefyd be oedd y lliwiau yn cynrychioli - dim ond enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol oedd yn mynd i'r wisg wen, wedyn bod pawb oedd yn cael eu hurddo oedd yn ymwneud â'r celfyddydau yn mynd i'r wisg werdd, ac wedyn mae'r wisg las i bobl am wyddoniaeth, mathemateg, chwaraeon a'r gyfraith ac yn y blaen.
"Dwi'n meddwl ei fod o'n gwneud mwy o synnwyr erbyn hyn."
Cafodd Mr Roberts ei eni a'i fagu ym mhentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant ym Mhowys ac aeth i Ysgol Uwchradd Llanfyllin a Choleg y Drindod Caerfyrddin.
Bu'n athro a phrifathro yn Ysgol Hafren Y Drenewydd, cyn ei benodi'n brifathro ar Ysgol Gymraeg Dafydd Llwyd.
'Mwy pob blwyddyn'
Mae'n dweud ei fod yn falch iawn o weld yr Orsedd yn ffynnu.
"Mae 'na fwy pob blwyddyn bron yn dod i mewn fel aelodau, ac mae 'na drawsdoriad hyfryd," meddai.
"Mae gennych chi bobl sy'n cyfrannu ar lefel cenedlaethol mewn gwahanol feysydd - chwaraeon a darlledu ac yn y blaen - ac maen nhw ar yr un lefel ac efallai'n cerdded yn yr orymdaith efo rhywun sydd wedi cyflawni llwyth o waith yn eu cymuned.
"Mae hynny'n hyfryd - ein bod yn medru anrhydeddu pobl am wneud diwrnod da o waith, lle bynnag mae hynny."
Fe wnaeth Mr Roberts ennill y Goron yn Eisteddfod Dinbych yn 2001 am ddilyniant o gerddi yn dweud hanes plentyn yn gorfod dygymod â rhieni anghytûn.
Mae hefyd yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, ac ef a gymerodd ran Y Mab Darogan yn eu sioe gyntaf o'r un enw adeg Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ym Machynlleth ym 1981.
Mae'n dweud bod ei gyfrifoldebau gyda Chwmni Theatr Maldwyn yn rhan o'r rheswm y penderfynodd adael ei rôl fel cofiadur.
'Penderfyniadau anodd'
"Mis Medi diwethaf fe wnaethon ni benderfynu ein bod am ddod â'r cwmni yn ôl at ei gilydd, a gwneud cyngerdd ar y cyd efo'r ysgol theatr," meddai.
"Roedd y cyngherddau yma yn digwydd yn ystod mis Ebrill a Mai, ac mae'r gwaith mawr sydd i'w gwneud efo'r Orsedd tua'r un adeg.
"Fel mae rhywun yn mynd yn hŷn maen nhw'n gorfod gwneud penderfyniadau anodd weithiau.
"Yn sicr roedd hynny'n rhan o fy mhenderfyniad, a 'mod i'n cario 'mlaen i gynnal y cwmni a'r ysgol am rai blynyddoedd i ddod."
Er ei fod yn gadael fel cofiadur, bydd Mr Roberts ar gael os yw ei olynydd eisiau ei arbenigedd, wrth iddo ddychwelyd i fod yn aelod cyffredinol o'r Orsedd.
"Dwi wedi cael y fraint o gydweithio efo tri Archdderwydd - Jim Parc Nest, Christine a rŵan Geraint," meddai.
"Gwaith gwirfoddol ydy o, ac mae'n lot o waith a dweud y gwir.
"Ond mae hi wedi bod yn bleser gwneud y gwaith, ac mae rhywun yn dod i 'nabod pobl ddiddorol a chroesawu pobl ddiddorol i fod yn aelodau o'r Orsedd.
"Mae'r cydweithio rhwng yr Orsedd a swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol yn hanfodol.
"Mae wedi bod yn wych, ac maen nhw'n gwneud llawer ar ein rhan ni, a dwi'n gobeithio bod yr Orsedd yn cyfrannu llawer i lwyddiant yr Eisteddfod hefyd."
Bydd olynydd Mr Roberts yn cael ei gyhoeddi yn ystod y Brifwyl eleni.