Cyflogau Cymry'r BBC

  • Cyhoeddwyd

Am y tro cyntaf erioed mae'r BBC wedi datgelu cyflogau eu prif gyflwynwyr ac actorion. Cafodd y gorfforaeth ei gorfodi gan Lywodraeth San Steffan i gyhoeddi cyflogau sêr sy'n ennill mwy na £150,000 y flwyddyn.

Dyma olwg ar gyflogau rhai o'r Cymry amlwg:

line

John Humphrys £600,000 - £649,999

Mae'r newyddiadurwr 73 oed o Gaerdydd wedi bod yn cyflwyno rhaglen newyddion Today ar BBC Radio 4 ers blynyddoedd lawer. Mae'n dal i roi nosweithiau di-gwsg i wleidyddion cyn ac ar ôl iddyn nhw gael eu holi'n dwll ganddo. Mae Humphrys hefyd yn cyflwyno'r rhaglen gwis Mastermind.

John h
line

Huw Edwards £550,000 - £599,999

Mae cyflwynydd BBC News at Ten hefyd yn gyfrannwr rheolaidd i Cymru Fyw. Fe ymunodd gyda'r BBC fel newyddiadurwr dan hyfforddiant yn 1984. Ar ôl cyfnod yn 'stafell newyddion BBC Cymru symudodd i Lundain. Bu'n ohebydd gwleidyddol yn San Steffan cyn iddo ddod yn wyneb cyfarwydd tu ôl i'r ddesg gyflwyno.

huw edwards
line

Alex Jones £400,000 - £449,999 (Cyflwynydd The One Show)

Dechreuodd y cyflwynydd o Rydaman ei gyrfa yn y cyfryngau fel ymchwilydd ar ôl graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Buan y daeth cynhyrchwyr teledu i sylwi bod ganddi dalent o flaen y camera. Wedi iddi gael profiad helaeth o gyflwyno ar S4C mi gafodd hi ei dewis yn 2010 i olynu Christine Bleakley fel cyd-gyflwynydd The One Show. Mae Alex newydd ddychwelyd i'r swydd ar ôl cyfnod mamolaeth.

alex
line

Jason Mohammad £250,000 - £299,999 (Cyflwynydd)

Dechreuodd Jason o Gaerdydd ei yrfa yn ystafell newyddion BBC Cymru. Bu'n gweithio ar raglen Wales Today a buan y daeth yr adran Chwaraeon i weld ei rinweddau fel cyflwynydd. Yn ogystâl â bod yn aelod o dimau'r BBC mewn digwyddiadau mawr gan gynnwys Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2014, mae hefyd yn cyflwyno Final Score ar BBC One ac mae ganddo raglen ddyddiol ar BBC Radio Wales. Mae hefyd wedi cyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru ac S4C.

jm
line

Jonathan Davies £150,000 - £199,999 (Sylwebydd rygbi)

Roedd y gŵr o Drimsaran yn cael ei ystyried yn un o chwaraewyr rygbi disgleiria' ei gyfnod. Bu'r maswr yn gapten ar Gymru cyn symud i ogledd Lloegr ar ddechrau'r 90au i chwarae rygbi tri ar ddeg i Widnes. Daeth yn ôl i Gymru yn 1996 gan orffen ei yrfa gyda Chaerdydd. Mae ei wybodaeth o'r ddwy gêm yn golygu ei fod yn cael ei ddefnyddio yn helaeth gan adran Chwaraeon y BBC fel sylwebydd craff.

jd
line

Jeremy Bowen £150,000 - £199,999 (Golygydd y Dwyrain Canol)

Ers ymuno gyda'r BBC yn 1984 mae'r newyddiadurwr o Gaerdydd wedi gohebu o rai o ryfeloedd ffyrnicaf y byd. Cafodd gyfnod byr yn cyd-gyflwyno Breakfast rhwng 2000-2002 wedi iddo ddiodde' o drawma (PTSD) wedi i danc ymosod ar y car roedd o'n teithio ynddo tra'n gohebu o Libanus. Cafodd cyfaill iddo ei ladd. Mae'n ystyried y digwyddiad yn un wnaeth newid ei fywyd. Ers 2005 mae o wedi bod yn Olygydd y Dwyrain Canol.

jb
line

Mae'r rhestr lawn ar wefan BBC News.