Nigel Owens: Bulimia a fi

  • Cyhoeddwyd
Yn ei chanol hi: Nigel yn dyfrabnu yn ystod rownd wyth ola Cwpan y Byd 2015
Disgrifiad o’r llun,

Yn ei chanol hi: Nigel yn dyfarnu yn ystod Rownd Wyth Olaf, Cwpan y Byd 2015

Mae e'n un o ddyfarnwyr gorau'r byd ond mae Nigel Owens wedi rhoi ei iechyd mewn perygl i gyrraedd uchelfannau'r gamp.

Mae'r gŵr o Fynydd Cerrig wedi cydnabod bod ganddo broblemau gyda bulimia pan oedd yn ddyn ifanc. Ond am y tro cyntaf mae'n datgelu bod ei frwydr gyda'r anhwylder bwyta yn parhau wrth iddo geisio cyrraedd y safonau ffitrwydd angenrheidiol fel dyfarnwr rygbi proffesiynol.

Wrth weithio ar raglen Nigel Owens: Bulimia and Me, BBC One Wales (23 Gorffennaf, 20:30) daeth i ddeall faint y mae pobl eraill yn ei ddiodde' a sylweddoli bod angen help meddygol arno ef ei hun.

Yma mae'n rhannu ei brofiadau o bulimia gyda Cymru Fyw:

Dechreuodd e pan ro'n i tua 19 oed. Ro'n i'n pwyso tua 16 stôn a hanner. Nes i benderfynu bod angen colli pwysau arna' i. Ond nes i golli'r pwysau y ffordd anghywir. Nes i 'neud fy hun yn sâl ar ôl bwyta bwyd. Jyst mynd i'r tŷ bach a rhoi fy mysedd lawr fy ngwddwg a g'neud fy hunan yn sick.

Es i wedyn i lawr i 11 stôn a hanner. Ond doedd e ddim yn iach iawn. Ro'n i'n dene ond doedd gen i ddim lot o egni na chryfder. Ro'dd bulimia yn rhan eitha' mawr o'm mywyd i am rhyw dair blynedd. Ro'n i'n g'neud fy hun yn sâl bron bob dydd.

Disgrifiad o’r llun,

Tu ôl i'r wên a'r hwyl ar raglen 'Jonathan' mae Nigel wedi wynebu brwydr bersonol gyda 'bulimia'

Dal 'na

Fel aeth y blynydde' heibio na'th e fynd yn llai ac yn llai. Falle bydde fe yn digwydd unwaith neu ddwyweth yr wythnos neu ddim yn digwydd am gwpl o wythnose. Weithie ro'n i'n mynd am fis neu ddau heb wneud fy hun yn sâl. Ond ro'dd e'n dal yna drwy'r amser.

Pan o'n i tua 36 na'th Mam 'weud wrtha i a fy nhad bod canser arni hi a bod blwyddyn 'da hi i fyw. Dwi'n cofio dechre bwyta lot, rhyw fath o comfort eating, a t'imlo mod i wedi bwyta gormod. Es i i'r tŷ bach ond fethes i â gwneud fy hun yn sâl.

Dwi'n credu mai'r rheswm am hyn oedd bod gan Mam ddolur nad oedd hi'n gallu gwneud unrhywbeth amdano, ro'dd gen i'r bulimia 'ma ond yn gallu gwneud rhywbeth amdano, a 'na'th e stop'o fel 'na. Na'th e ddim digwydd am bedair neu bum mlynedd wedi hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nigel yn trafod ei gyflwr mewn manylder ar 'Nigel Owens: Bulimia and Me'

Profion ffitrwydd

Ddath e nôl wedyn tua 2014 pan o'n i'n dechre paratoi at Gwpan Rygbi'r Byd y flwyddyn wedyn. O'dd rhaid i mi basio profion ffitrwydd. Mae hi'n anoddach gwneud hynny wrth fynd yn henach. Nes i benderfynu bod angen colli tua stôn arna i. Nes i wneud fy hun yn sâl er mwyn colli'r 14 pwys 'na.

Ddechreuodd e nôl a mae e wedi bod yna es hynny a dweud y gwir. Dyw e ddim mor wael â phan o'n i'n iau. Mae'n gallu bod yn fisoedd a mae popeth yn iawn. Ond os nad wy'n bwyta'n iawn a bwyta'n iach rwy'n gweld y pwysau 'ma'n dod nôl. Mae'r bulimia'n dod nôl nes bod y pwysau wedi diflannu.

Disgrifiad,

Nigel Owens yn trafod ei frwydr gyda bwlimia

Y tro diwetha' iddo fe ddigwydd oedd pan o'n i'n dyfarnu yn Ariannin ddechre'r haf. Mae shwt gyment o gig a bwyd da i'w gael mas 'na.

Touch wood ar ôl i fi ddod nôl 'dyw e ddim wedi digwydd am 'chydig wythnosau nawr. Ond mi wn i, o drwch blewyn, bydd e 'da fi eto os na'i ddim edrych ar ôl y corff.

Mae gweithio ar y rhaglen hon wedi bod yn agoriad llygaid. Dwi'n sylweddoli fy mod i wedi bod yn ffodus ac y galle fe fod wedi bod yn lot gwaeth. Dwi wedi sywleddoli nad wy'n ei reoli fe a dwi wedi ystyried nawr bod ishe i fi fynd i weld arbenigwr er mwyn ei stop'o fe.

Gobeithio y galla' i gael help er mwyn cael ei wared e unwaith ac am byth.

Week in Week Out, Nigel Owens: Bulimia and Me, BBC One Wales, nos Lun, 23 Gorffennaf, 20:30

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rheoli sgarmes yn haws 'na rheoli 'bulimia'