Lluniau'r Steddfod: Dydd Mawrth // The National Eisteddfod: Tuesday's Pictures

  • Cyhoeddwyd

Diwrnod arall llawn cystadlu yn Eisteddfod Ynys Môn. Dyma rai o uchafbwyntiau dydd Mawrth mewn lluniau. Am fwy o'r Eisteddfod, ewch i'n hadran arbennig ar Cymru Fyw, dolen allanol.

Here are some of Tuesday's highlights in pictures. For more from the National Eisteddfod at Bodedern, Anglesey, visit our special Eisteddfod website., dolen allanol

Holl luniau'r wythnos // The Eisteddfod week in pictures

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r criw ifanc yma o Gaernarfon yn aros yn Maes B mewn pabell oedd dan ddŵr bore 'ma - ond maen nhw am aros yma tan ddiwedd yr wythnos. Wariars! // This lot say they are determined to stick out the week at the Eisteddfod - despite spending the night in a soggy tent.

Disgrifiad o’r llun,

Sut mae'r gwynt yn chwythu heddiw? // Which way is the wind blowing?

Disgrifiad o’r llun,

Un ci bach (iawn)! Claude y dachshund yn dod o hyd i loches o dan y bwrdd. // This table is just the right height for a little dachshund.

Disgrifiad o’r llun,

Elfed Roberts yn datgelu mewn sgwrsgyda Lisa Angharad ar y maes fod Eisteddfodau Meifod ymhlith ei hoff rai ac mai fo gyflwynodd y bar i'r ŵyl am ei fod yn teimlo fod Eisteddfod efo dim ond canu ac adrodd yn "boring"! // Eisteddfod Chief Executive Elfed Roberts reveals his festival highlights in a candid interview on the Maes.

Disgrifiad o’r llun,

Picnic proffesiynol gan deulu o Benisarwaun. // A fine feast.

Disgrifiad o’r llun,

Criw Cyw yn rhoi gwên ar wynebau er gwaetha'r cymylau fore Mawrth. // A wave from S4C's 'Cyw' presenters makes this little lady's day.

Disgrifiad o’r llun,

Dan Puw, enillydd Medal Syr T H Parry Williams, yn dathlu'r achlysur gyda'i blant a'i wyrion. // Dan Puw, winner of the T H Parry Williams Medal, celebrates with his family.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd ffrindiau Judith Stammers wrth eu bodd ei bod wedi ennill Cadair y Dysgwyr - er ei bod wedi cadw'r gyfrinach rhagddyn nhw ers wythnosau! // Judith Stammer's friends were delighted she scooped the Welsh Learner's Chair - despite her having kept it a secret

Disgrifiad o’r llun,

Milgi! Milgi! Mae Archie gyda'i berchennog Cat Jones, pennaeth Hub Cymru Africa, ar eu stondin drwy'r wythnos hon. // Cat and dog! Archie the gorgeous greyhound with his owner Cat Jones.

Disgrifiad o’r llun,

Swigod hardd. // Beautiful bubbles.

Disgrifiad o’r llun,

Adrian Pugh ac Oliver Roberts o Gôr Henffych - côr wedi ei gyfuno o Gôr Cymysg Dyffryn Conwy, Côr Meibion Colwyn, Côr Meibion Maelgwyn a nifer o unigolion. // Adrian Pugh and Oliver Roberts, members of the Henffych choir.

Disgrifiad o’r llun,

Nia Lloyd Jones yn siarad gyda chôr Henffych ar ôl cystadlu yn y gystadleuaeth Côr Pensiynwyr dros 60 oed. // Members of the Henffych choir being interviewed back stage by BBC Radio Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Lludd yn edrych ar y bywyd môr yn y Babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg. // Pondering marine life at the Science and Technology tent.

Disgrifiad o’r llun,

Naddu coed llwyfen. Justine Montford o Glasgow yn wreiddiol, ac yn byw erbyn hyn yn Aberdesach ac yn gwirfoddoli gyda Llais y Goedwig. // A weaving demonstration by Justine Montford from Glasgow.

Disgrifiad o’r llun,

Macsi'n pwyso a mesur - un o beirianwyr y dyfodol yn y Babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg. // A budding young engineer of the future at the Science and Technology tent.

Disgrifiad o’r llun,

'Doedd neb yn deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen eleni yn ôl y beirniaid, Bethan Gwanas, Caryl Lewis a'r diweddar Tony Bianchi, // The Daniel Owen Memorial Medal remained unclaimed after the adjudicators declared that no competitors were worthy of the prize.