Pwyllgor o ACau yn galw am fwy o gyllid i S4C

  • Cyhoeddwyd
s4c

Mae pwyllgor o Aelodau Cynulliad wedi dweud fod angen mwy o gyllid i S4C allu darparu rhagor o gynnwys digidol.

Mae pwyllgor iaith, diwylliant a chyfathrebu'r Cynulliad wedi cyhoeddi ei adroddiad ar S4C cyn i adolygiad gan Lywodraeth y DU gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod cyn-gyfarwyddwr rhaglenni S4C, Euryn Ogwen Williams, wedi cael cais i gadeirio'r adolygiad.

Mae adroddiad y pwyllgor - Tu allan i'r Blwch: Dyfodol S4C - yn galw am sicrwydd hirdymor o gyllid y sianel, a mwy o gyllideb i sicrhau bod y sianel yn gallu cyrraedd siaradwyr Cymraeg sydd ddim yn ei gwylio.

Ffonau a rhaglenni ar-alw

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Bethan Jenkins AC: "Ar hyn o bryd, mae deddfwriaeth ynglŷn ag S4C yn canolbwyntio ar ei rôl yn darparu cynnwys teledu, ond gwyddom fod cynulleidfaoedd modern yn defnyddio cynnwys ar eu ffonau a rhaglenni ar-alw.

"Ers 2011, mae cyllideb S4C wedi gostwng £20m, ac mae hynny heb ystyried chwyddiant.

"Os yw S4C yn mynd i oroesi a ffynnu i hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru, mae'n rhaid iddo fod yn gallu cystadlu am gynulleidfaoedd ar-lein heb gael ei gyfyngu gan gylch gwaith sydd wedi dyddio, a chyllideb sy'n crebachu."

Ar hyn o bryd mae S4C yn derbyn £74.5m o ffi'r drwydded y BBC bob blwyddyn, a £6.8m gan Lywodraeth y DU.

Yn ddiweddar dywedodd y sianel y byddai angen £6m yn rhagor i alluogi ei gynnwys i ymddangos ar bob llwyfan newydd.

huw jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae cadeirydd S4C, Huw Jones wedi croesawu canfyddiadau'r pwyllgor

Mae'r pwyllgor yn argymell ail-ddiffinio cylch gorchwyl S4C, o fod yn sianel deledu sy'n gwasanaethu cynulleidfaoedd yng Nghymru i fod yn ddarparwr cynnwys sydd ei angen i hyrwyddo a meithrin yr iaith Gymraeg.

Mae hefyd yn galw ar y system lywodraethu bresennol, sy'n cael ei arwain gan Awdurdod S4C, i gael ei ddisodli gan fwrdd unedol sy'n cynnwys uwch reolwyr a chyfarwyddwyr anweithredol.

Mae'n fodel a fabwysiadwyd yn ddiweddar gan y BBC.

'Cyfraniad pwysig'

Mae llawer o'r argymhellion yn adlewyrchu'r rhai a wnaed gan S4C yn eu dogfen - Gwthio Ffiniau, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill eleni - oedd yn nodi eu gweledigaeth ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.

Mae cadeirydd S4C, Huw Jones wedi croesawu canfyddiadau'r pwyllgor.

"Rydym yn ddiolchgar i'r pwyllgor am eu diddordeb manwl yn y gwasanaethau y dylai S4C ddarparu yn y dyfodol, a'r modd y mae'n cael ei ariannu," meddai.

"Bydd yr adroddiad yn sicr yn gyfraniad pwysig a gwerthfawr i'r drafodaeth ynghylch y materion hyn a fydd yn digwydd yn sgil yr adolygiad annibynnol o S4C."

'Blin'

Dywedodd Iestyn Garlick, cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) bod yr adroddiad yn honni bod tystion wedi bod "yn llai clir ynglŷn â pha lefel o gyllid ychwanegol sydd ei angen".

Ond mae Mr Garlick yn dweud nad ydy hynny'n wir yn achos TAC, a'u bod wedi bod yn "berffaith glir yn y dystiolaeth ysgrifenedig ymlaen llaw".

Dywedodd eu bod wedi gwneud yn glir bod angen "cynyddu incwm cyhoeddus S4C gan swm sy'n cyfateb i 10% o gyfanswm y lefel ariannu presennol gan DCMS a ffi trwydded at ei gilydd".

"Dwi'n flin eu bod nhw'n dweud ein bod ni ddim wedi bod yn glir," meddai Mr Garlick.

"Nhw sydd ddim wedi bod yn glir, nhw sydd ddim yn dweud dim byd, nhw sydd ddim wedi dangos asgwrn cefn."