Cynnal profion ar rew mewn siopau coffi ledled Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae profion yn cael eu cynnal ar rew sy'n cael ei ddefnyddio mewn diodydd gan siopau coffi ledled Cymru rhag ofn ei fod yn cynnwys bacteria ysgarthion.
Daw'r profion fel ymateb i raglen Watchdog y BBC wnaeth brofi diodydd tair o gadwyni coffi mwyaf y DU.
Fe wnaeth y rhaglen ganfod samplau o facteria ysgarthion mewn diodydd o 30 cangen Starbucks, Costa a Caffè Nero o amgylch y DU.
Mae Fforwm Microbiolegol Bwyd Cymru wedi gofyn i gynghorau gynnal profion, sydd wedi dechrau ers ychydig dros wythnos.
'Pryderus'
"Er mai bychan oedd arolwg y BBC, roedd aelodau Fforwm Microbiolegol Bwyd Cymru yn ddigon pryderus i orchymyn arolwg Cymru gyfan i brofi safon ficrobiolegol y rhew sy'n cael ei ddefnyddio mewn siopau coffi," meddai cadeirydd y fforwm Helen O'Loughlin.
"Bydd samplu yn cael ei wneud ym mhob ardal awdurdod lleol gan eu swyddogion diogelwch bwyd eu hunain.
"Os oes unrhyw ganlyniadau anfoddhaol bydd swyddogion diogelwch bwyd yn cynnal ymchwiliad yn syth."
Does dim gwybodaeth am faint o siopau coffi fydd yn cael eu profi nac am faint o amser y bydd y profion yn cael eu cynnal, ond mae disgwyl canlyniadau cychwynnol yn hwyrach yn y flwyddyn.