'Angen dileu diwylliant cyfrinachedd y llywodraeth'
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru "gael gwared â'i diwylliant o gyfrinachedd", medd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.
Daw'r alwad wedi i'r Ceidwadwyr astudio canlyniadau ceisiadau i Lywodraeth Cymru dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, a chanfod bod llai na hanner wedi arwain at ymatebion llawn.
Dywedodd y Ceidwadwyr fod hynny yn is o lawer na'r cyfartaledd yn y sector cyhoeddus.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n trin bob cais yn unigol, gan ystyried a fyddai ateb llawn yn niweidiol i Lywodraeth Cymru neu rywun arall cyn ymateb.
'Cefnu' ar bolisi tryloywder
Dros gyfnod o 12 mis rhwng Mehefin 2016 a Mehefin 2017, fe dderbyniodd Llywodraeth Cymru 763 o geisiadau o dan y Ddeddf. O'r rheiny cafodd 46% ymatebion llawn, o'i gymharu â 70% ar draws y sector cyhoeddus.
Daeth ymateb i ychydig dros dri chwarter o'r ceisiadau o fewn yr 20 diwrnod sy'n cael ei ganiatáu gan y Ddeddf - y cyfartaledd yw 84%.
Dywedodd Andrew RT Davies: "Yn nyddiau cynnar y Cynulliad fe ddywedodd y llywodraeth Lafur y bydden nhw'n sicrhau polisi o dryloywder fyddai'n mynd ymhellach na'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth hyd yn oed.
"Wedi bron i ddau ddegawd mewn grym mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru'n cefnu ar hynny.
"O'r ffigyrau yma mae'n glir nad yw cydymffurfio gyda'r Ddeddf yn ddim ond siarad gwag, a bod gweinidogion Llafur rhywsut yn meddwl eu bod uwchlaw craffu.
"Unwaith ac am byth rhaid i Lywodraeth Cymru gael gwared â'r diwylliant o gyfrinachedd, a gweithredu'r newidiadau sylfaenol sydd eu hangen er mwyn meithrin y math o lywodraeth agored y mae pobl am ei weld ac yn ei haeddu."
Wrth ymateb i'r alwad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i'r egwyddor o dryloywder sy'n greiddiol i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
"Rydym yn trin bob cais yn unigol gan ystyried a fyddai rhyddhau gwybodaeth yn achosi niwed naill ai i Lywodraeth Cymru neu rywun arall. Byddai hynny efallai oherwydd gwybodaeth fasnachol neu gyfrinachol neu a fyddai'n groes i'r Ddeddf am resymau eraill.
"Yn yr achosion hynny fe fyddwn yn dal cyn lleied o wybodaeth yn ôl ag sy'n bosib a darparu eglurhad llawn o pam y gwnaethpwyd hynny.
"Yn 2016 fe gafodd 85% o geisiadau ymateb o fewn y terfyn amser statudol, ac mae hynny'n unol â'r raddfa gafodd ei osod gan y Comisiynydd Gwybodaeth."