Mynediad anabl i atyniadau twristaidd 'ddim digon da'
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau i gynghorau yng Nghymru wneud lleoliadau twristaidd ac atyniadau yn fwy hygyrch i bobl anabl.
Mae corff Anabledd Cymru yn dweud bod pobl anabl a'u teuluoedd yn cael eu heithrio o ddigwyddiadau ac atyniadau am nad oes yna doiledau na chyfleusterau addas.
Yn ôl Rhian Davies o'r elusen, dyw'r sefyllfa fel y mae hi "ddim yn ddigon da".
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol wedi cael cais am ymateb.
Rheolaeth dros fywyd pob dydd
Dywedodd Ms Davies - prif weithredwr yr elusen - bod hi'n ymddangos bod "dim digon" yn cael ei wneud i sicrhau bod cymdeithas yn gynhwysol i bobl gydag anableddau.
"Mae pobl anabl a'u teuluoedd yn cael eu hatal rhag dod o hyd i lety, llefydd i fwyta, a mynd i ddigwyddiadau, atyniadau a lleoliadau achos diffyg toiledau hygyrch, cyfleusterau a gwasanaethau", meddai.
"Un o egwyddorion sylfaenol byw yn annibynnol ar gyfer pobl anabl yw eu bod yn cael dewis a rheolaeth am sut maen nhw'n byw eu bywydau bob dydd - mae hyn yn cynnwys mynediad at bethau diwylliannol".
Mae Arthur Lewis o Sir Amwythig ar ei wyliau yng Ngheredigion gyda'i ferched Katie a Becky. Mae Becky, sydd yn 22, yn dioddef o barlys yr ymennydd ac mae'n ddibynnol ar ei chadair olwyn.
"Ni'n hoffi Aberystwyth a Borth am fod yna lefydd eithaf fflat i ymweld â nhw," meddai Mr Lewis.
"Ond pan aethon ni i weld un o'r atyniadau twristaidd yn y dref, fe ddywedon nhw na fyddai Katie yn gallu ei ddefnyddio yn llwyr.
"Felly doeddwn ni ddim yn gweld pwynt talu. Does 'na'm llawer o ddim i bobl anabl mewn ardaloedd cyfagos fel Cei Newydd, Aberaeron ac Aberdyfi."
Ychwanegodd Mr Lewis bod ei ferch yn ei chael hi'n anodd i ddefnyddio toiledau cyhoeddus hefyd.
"Does 'na ddim llefydd newid go iawn i Katie ddefnyddio," meddai.
Cerbydau trên newydd
Un atyniad sydd wedi buddsoddi yn ddiweddar er mwyn gwella mynediad i bobl anabl yw Rheilffordd Cwm Rheidol.
Mae'r fenter wedi ailwneud eu trenau ar ôl derbyn grant gan y Gronfa Cymunedau Arfordirol.
"Rydyn ni'n ailadeiladu pedwar cerbyd. Maen nhw'n dyddio 'nôl i'r 20fed ganrif felly does 'na ddim mynediad i bobl anabl," meddai prif reolwr y rheilffordd, Llŷr ap Iolo.
"Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr ac yn golygu bod defnyddwyr cadeiriau olwyn yn medru mwynhau tripiau trwy'r cwm heb orfod gadael eu cadeiriau olwyn."