Cwyn y ddafad felen

  • Cyhoeddwyd

A dyma ni eto ar drothwy tymor y cynadleddau gwleidyddol ac yn ôl yr arfer y Democratiaid Rhyddfrydol fydd yn ymgasglu'n gyntaf ar gyfer cynhadledd sy'n gysgod o'r 'mawredd' a fu. Mae'r stondinwyr masnachol oedd mor eiddgar i lobïo a llenwi coffrau'r blaid pan oedd hi mewn llywodraeth wedi hen ddiflannu ac mae'r darlledwyr wedi israddio'r sylw mae'r peth yn cael.

Mae'n rhyfedd braidd nad yw plaid y canol yn gallu magu grym mewn cyfnod lle mae'r blaid Geidwadol yn eiddo i'r brecsitwyr caled a Llafur yn cael ei harwain gan yr arweinydd mwyaf asgell chwith yn ei hanes diweddar. Mae 'na wagle enfawr yn y canol, gwagle sy'n cynnwys bron y cyfan o'n hen sbectrwm gwleidyddol, ac eto, crwydro yn yr anialdir mae'r blaid felen.

Pam felly? Wel, mae 'na hen ddigon o dystiolaeth bod 'na filiynau o bleidleiswyr sy'n ystyried nhw eu hun yn bobol gymedrol, ryddfrydol, ond yn 2017, ar y cyfan, nid i'r Democratiaid Rhyddfrydol y gwnaeth y bobol hynny bleidleisio.

Cyn i'r Lib Dems wneud hynny, mae angen cydnabod y byddai system gyfrannol wedi delifro rhyw hanner cant o seddi i'r blaid ond roedd 'na 'gyfnod pan oedd y blaid yn gallu llwyddo mewn etholiadau cyntaf i'r felin. Esgus nid rheswm yw beio'r system etholiadol.

Hanfod y broblem yw hyn yn fy marn i. Roedd apêl craidd y blaid yn dibynnu ar y canfyddiad ohoni fel plaid oedd rhyw sut yn fwy egwyddorol na'r pleidiau eraill. Nhw oedd y bobol neis mewn gwleidyddiaeth.

Nawr fe fydd actifyddion y pleidiau eraill yn dweud wrthoch chi bod 'na ddim byd egwyddorol na neis ynghylch tactegau ymgyrchu'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae 'na wirionedd yn hynny. Fel Baldrick druan, roedd y blaid byth a hefyd yn chwilio am ryw 'cunning plan' fyddai'n trawsnewid ei sefyllfa, yn fodlon dweud gwahanol bethau i wahanol bobol ac mewn gwahanol lefydd ac mae hynny cyn dechrau ar y holl siartiau bar yna!

Un o'r 'cunning plans' hynny oedd y penderfyniad i alw am refferendwm 'mewn neu mas' ynghylch yr Undeb Ewropeaidd yn ystod trafod cytundeb Lisbon yn 2008. Roedd y cymhelliad yn weddol amlwg. Asgwrn wedi ei daflu i Ewroscepitgiaid de orllewin Lloegr oedd yr alwad, ffordd o osgoi cefnogi refferendwm ynghylch y cytundeb ei hun, refferendwm a fyddai mwy na thebyg wedi ei golli.

Cyn hynny, syniad ymylol iawn oedd y syniad o refferendwm mewn a mas. Roedd Referendum Party Syr James Goldsmith wedi bratu miliynnau o bunnau yn ceisio poblogeiddio'r syniad a phlaid fechan ac ymylol oedd Ukip. Nick Clegg a'i Ddemocratiaid Rhyddfrydol wnaeth troi'r syniad yn un parchus, un digon parchus i David Cameron ei fachu at ei ddibenion ei hun a chi'n gwybod beth ddigwyddodd wedyn.

Oes rhyfedd felly bod yr Euroffiiliaid mwyaf pybyr yn ei chael hi'n anodd maddau i'r blaid?

Nawr fe fyddai'n bosib i mi wneud yr un pwynt trwy gyfeirio at ffioedd dysgu yn Lloegr neu amryw o bynciau eraill. Mae'r holl 'cunning plans' yna wedi costi'n ddrud i'r blaid gan wneud niwed hir dymor, marwol efallai, i'w delwedd.

Os unrhyw beth, erbyn hyn mae bodolaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn fwy o rwystr nac o sbardun i ddatblygiad gwleidyddiaeth y tir canol.

Efallai ei bod hi'n addas fod yn blaid yn cwrdd yn Bournemouth. Wedi cyfan mae hwnnw'n enwog fel y lle y mae pobol yn mynd iddo i farw.