Diwrnod olaf taith y Baton yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Baton y Frenhines ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2018 wedi teithio ar hyd gwifren zip fel rhan o ddiwrnod olaf y daith yng Nghymru.
Y darlledwr Aled Hughes o Radio Cymru wnaeth gludo'r baton i lawr y wifren.
Cyn hynny roedd y baton wedi ymweld â Chastell Dolwyddelan.
Ymhlith y rheini sy'n cario'r baton mae Gerald Williams - nai Hedd Wyn - y morwr Paralympaidd a chwaraewr hoci iâ Steve Thomas a'r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Elen Evans.
Dechreuodd y baton ei thaith drwy Gymru ddydd Mawrth, ac fe fydd yn mynd ymlaen i ynys Guernsey.
Yn ogystal ag ymweld â Chonwy a Blaenau Ffestiniog mae'r baton yn teithio i Bortmeirion a Phorthmadog, a chartref y bardd Hedd Wyn, Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd.
Y gyrchfan olaf fydd Gorsaf Bad Achub Cricieth, lle bydd ŵyr ac wyres y cyn-Brif Weinidog, David Lloyd George, a gafodd ei fagu yn Llanystumdwy, yn cael cyfle i gludo'r baton.