Ergyd ariannol i bwerdy biomas £1bn Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni sy'n gobeithio datblygu pwerdy biomas gwerth £1bn ar Ynys Môn wedi cael ergyd ar ôl methu yn ei cais i ennill cytundeb â'r llywodraeth.
Mae Orthios eisiau datblygu pwerdy fyddai'n darparu gwres ac ynni ar hen safle Alwminiwm Môn yng Nghaergybi.
Ond doedd y cwmni ddim yn llwyddiannus yn ei cais am gytundeb ynni adnewyddadwy gyda Llywodraeth y DU.
Dywedodd llefarydd o Orthios y byddai'r cynllun "yn mynd yn ei flaen er y canlyniad".
1,700 o swyddi
Mae'r datblygiad yn addo creu 500 o swyddi parhaol a 1,200 yn rhagor i adeiladu'r safle.
Daw'r ergyd ddiweddaraf yn dilyn cadarnhad ym mis Chwefror eleni bod buddsoddwyr o China, Sino Fortune Group, wedi tynnu 'nôl o'r cynllun.
Dywedodd Orthios mewn datganiad eu bod yn teimlo'n rhwystredig am "beidio cael cefnogaeth" er eu bod wedi ail-lunio eu cynlluniau a chynnig pris oedd "yn sylweddol yn is" na'r hyn yr oedd wedi'i ddisgwyl gan y llywodraeth.
Ond fe wnaethon nhw ychwanegu mai "un o nifer o ffynonellau cyllid" oedd y cytundeb â'r llywodraeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2017