Cropian i fywyd newydd

  • Cyhoeddwyd
Mari Elen Jones a Nedw

Nid pawb sy'n gwirioni ar glywed y newyddion eu bod nhw'n disgwyl plentyn. Roedd Mari Elen Jones yn "gytud" pan gafodd hi wybod.

Mae'r ferch 24 oed, sy'n wreiddiol o Harlech ond bellach yn byw yng Nghwm-y-Glo, wedi dechrau blogio, dolen allanol am ei phrofiadau fel mam ifanc. Yn ei blog diweddaraf, mae Mari yn rhannu ei theimladau gonest gyda Cymru Fyw:

Mae'n ddydd Gwener, ond mae'n teimlo fel dydd Sul. Pam? Dyna'r tro dwytha' i fi gysgu.

Ma' Nedw, fy mab 11 wythnos oed, wedi cael annwyd annifyr a'i ffordd o o gôpio hefo'r peth ydy sgrechian drwy'r dydd a nos. Dwi'n nacyrd.

Ond ma' gwaeledd Nedw jest yn eising ar dop cyfres o ddigwyddiadau sydd wedi neud i mi deimlo fatha slepjan stêl ar fwstash Plwmsan.

Dwi'n 24 oed, ac os fysa' chi wedi gofyn i fi adeg yma flwyddyn ddiwetha': "Lle ti'n gweld dy hun mewn blwyddyn?", fyswn i fwy na thebyg wedi deud celwydd a 'di deud "mynd i deithio" i guddiad y ffaith fod gen i ddim syniad.

Disgrifiad o’r llun,

"Go iawn, be dwi isio ofyn ydy: Ydy dy dethi di'n brifo?"

Ond mi oedd gan Nedw syniad arall, ac adeg yma flwyddyn dwytha' (ar ôl noson feddwol dros ben) 'nath o ymgartrefu yn fy mol i a phenderfynu ei fod o am newid fy mywyd i am byth.

Dyna ni, dyna'r stori am sut es i'n feichiog.

O'n i'n gytud ac yn teimlo bod fy ngyrfa a fy mywyd i drosodd. Ond buan iawn nes i anghofio am y teimladau yna.

"Rhaid ti adael y tŷ neu ei di'n sâl"

Ers i mi gael Nedw, dwi 'di gneud pob dim yn fy ngallu i sicrhau mod i'n rhoi'r dechrau gorau iddo fo mewn bywyd.

Ers i mi gael o, dwi 'di bod mewn stad barhaol o fodlonrwydd, rwbath dwi erioed wedi'i deimlo o'r blaen, y cariad 'na sydd mor gryf pan ti'n sbïo arnyn nhw ma' dy fol di'n mynd yn dynn.

Ond dros yr wythnos ddiwetha', ma' 'na deimlad newydd 'di dechra' cropian i mewn a 'di'n llenwi fi hefo ansicrwydd, anobaith a jest Ych - y teimlad yna o "pwy ydw i?".

Dwi'n ferch ifanc addysgedig sydd, dros yr wythnosau diwetha' 'ma, wedi ffeindio fy hun yn eistedd mewn caffis ben fy hun, a cherdded o gwmpas fel enaid coll.

Efallai o ddiddordeb...

Dwi'n unig, a ma' loetran o gwmpas yn gneud i mi deimlo can gwaith gwaeth.

Ond dwi'n trio gadael y tŷ pob dydd, achos dyna ma' pawb yn ddeutha fi neud: "Rhaid ti adael y tŷ neu ei di'n sâl."

Felly dwi'n mynd i grwpiau babis, a dwi'n trio siarad hefo mamau eraill, ond mae o fatha bod yn sengl eto (heb Tinder), a pob tro dwi'n cael cyfle i neud ffrind dwi'n agor fy ngheg fawr a deud rwbath sdiwpud.

Dwi'm yn gwybod be dwi fod i ddeud na sut dwi fod i siarad.

Disgrifiad o’r llun,

Mari (dde) ydy un hanner y ddeuawd DJs Elan & Mari, gyda Elan Evans (chwith)

Dwi'n ailadrodd yr un cwestiynau'n ddyddiol: Faint oed ydy o/hi? 'Di o/hi'n dechra' cal dannedd? Ydy o/hi'n cysgu i chdi?

Ond go iawn, be dwi isio ofyn ydy: Ydy dy dethi di'n brifo? Pa mor aml ti'n crïo? Wyt ti'n casáu dy gorff di rŵan hefyd? Ti'n teimlo bod dy yrfa yn y cach achos ti 'di cael babi? Be ti'n feddwl o'r Bake Off newydd? Ti'n poeni bod dy bartner di ddim yn ffansio chdi ddim mwy?

Ond dwi byth yn gneud, dwi'm 'isio cal fy nabod fatha'r person dwys 'na yn tylino babi.

Dwi'n aros yn y sesiynau babis, gwenu'n ddel, clapio i ryw gân am yr heulwen a'r glaw, cyrraedd adra a chrïo tra bod Nedw yn cysgu wrth fy ochr a'r ddau ohono' ni'n aros i Lewis ddod adra i gael cwmni.

Disgrifiad o’r llun,

Rhieni cerddorol: Lewis Williams, drymar y band Sŵnami, a'r DJ Mari Elen Jones efo'u mab, Nedw

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Candelas

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Candelas

'Nath neb fy mharatoi i am faint bysa 'mywyd i'n newid ar ôl cael babi. O'n i'n gwbod ei fod o am fod yn anodd, ond do'n i'm yn gwbod pa mor anodd.

Dwi'n gweld fy ffrindiau'n mynd 'mlaen hefo'u bywydau, rhai sydd wirioneddol yn mynd i deithio, rhai sydd yn mynd yn bell yn ei gyrfa, a rhai sydd hefo'r rhyddid o fynd allan a'r nos Sadwrn i fwynhau ei hunain, a dwi'n teimlo mod i'n cael fy ngadael ar ôl.

Byswn i'm yn newid fy mywyd am ddim byd rŵan. Dwi'n caru Nedw fwy na'r byd a dwi'n caru Lewis, ond weithia na'i ddal fy hun - pan dwi'n canu am dedi bêrs, yn crinjo ar stori Instagram dwi 'di rannu'r diwrnod cynt, neu wrth y bwrdd bwyd methu dal fyny hefo sgwrs am ddigwyddiadau gwleidyddol achos dwi heb edrych ar y newyddion ers dyddia' - a dwi jest yn meddwl: Ai dyma pwy ydw i rŵan, y ferch heb sgwrs?