Galw ar ffermwyr i godi mastiau er mwyn derbyn taliadau
- Cyhoeddwyd
Dylai ffermwyr gael eu gorfodi i ganiatáu mastiau ffonau symudol ar eu tir os ydyn nhw am dderbyn cymorthdaliadau yn y dyfodol.
Dyna un o'r argymhellion sy'n cael eu gwneud gan Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad mewn adroddiad newydd.
Mae'r adroddiad yn edrych ar wahanol ffyrdd o sicrhau fod Cymru gyfan yn gallu cael cyswllt band eang, sydd ddim yn bodoli mewn 4% o ardaloedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu adroddiad y pwyllgor, gan ddweud y bydd yn ymateb maes o law.
'Gwasanaeth hanfodol'
Ymysg eu hargymhellion, mae'r pwyllgor wedi galw ar y llywodraeth i ystyried newidiadau i'r drefn gynllunio er mwyn gwella signal ffonau symudol ar draws y wlad.
Yn ogystal â'r syniad o godi mastiau, maen nhw hefyd wedi galw am sefydlu cynllun grant allai olygu bod gweithredwyr llai yn llenwi'r bylchau mewn signal, ac yn cynnwys y cymunedau heb gyswllt band eang yn rhan o hynny.
Ychwanegodd y pwyllgor y dylai corff Ofcom ddefnyddio ei holl bwerau er mwyn sicrhau fod y wlad gyfan yn gallu elwa o signal ffôn symudol.
"Dyw cysylltedd ddim bellach yn rhywbeth sydd yn 'neis i gael' yn ein bywydau. I lawer o bobl a busnesau, mae bellach yn wasanaeth hanfodol, fel trydan," meddai Russell George AC, cadeirydd y pwyllgor.
"Mae tirwedd a gwasgariad poblogaeth Cymru yn peri her mewn byd ble mae grymoedd y farchnad yn llywio darpariaeth band eang a signal ffôn symudol.
Dywedodd fod cynllun Superfast Cymru y llywodraeth wedi gwneud gwahaniaeth, ond fod "pocedi" ble nad oedden nhw wedi cyrraedd o hyd.
"Mae llenwi'r bylchau hynny fel bod pawb yn gallu elwa o wasanaeth da yn un o'r gofynion sylfaenol."
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn ymateb maes o law, ac ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod "llwyddiannau drwy gynllun Superfast Cymru" ac eraill.