Ar gael yn eich siop lyfrau leol
- Cyhoeddwyd
Efallai eich bod wedi sylwi'n barod ond mae gen i lyfr mas. Detholiad o wahanol flogiau a cholofnau sydd yn y gyfrol yn croniclo'r ugain mlynedd ers refferendwm datganoli 1997. Gan nad yw'r BBC ar y cyfan yn hoff iawn o hysbysebion fe wnâi adael y plygio yn fa'na a symud ymlaen at un neu ddau o bethau oedd gen i ddweud ynghylch newyddiadura yn y lansiad neithiwr.
Newyddiadurwr mawr cyntaf Cymru, Ieuan Gwynedd, oedd wedi fy ysbrydoli, yn fwyaf arbennig darn ganddo yn pwysleisio pwysigrwydd newyddiaduraeth i ddemocratiaeth a'r frwydr dros gyfiawnder. Dyma ddyfyniad o'r darn, gydag ymddiheuriad rhag blaen am bresenoldeb gair sy'n cael ei ystyried ychydig yn anghymwys y dyddiau hyn.
Bu amser ar Loegr pan y buasai ei llywodraeth yn dysgu nad oedd y negro bach ond anifail i'w werthu a'i brynu a'i droedio a'i fflangellu fel unrhyw anifail arall. Hi a ddysg yr awron... fod rhyfela a thywallt gwaed yn bethau cyfreithlon a bod y rhan luosocaf o'n cyd-ddynion a chyd-wladwyr yn anghymwys i gael llais yng ngwneuthuriad y deddfau y maent yn rhwym o ufuddhau iddynt.
Ysgrifennodd Ieuan y geiriau yna ychydig cyn ei farwolaeth yn 32 oed yn 1852, rhyw bymtheg mlynedd ar ôl i gaethwasiaeth gael ei gwahardd yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Roedd hynny wedi digwydd, yn ôl Ieuan, ar ôl i newyddiadurwyr ac ymgyrchwyr addysgu'r cyhoedd ynghylch creulondeb y gyfundrefn. Cyflwyno gwybodaeth i drwch y boblogaeth am anghyfiawnderau eraill megis rhyfeloedd anghyfreithlon a diffyg democratiaeth oedd y ffordd orau i frwydo yn erbyn y rheiny yn ei farn ef.
Wel, 160 o flynyddoedd yn ddiweddarach dydyn ni ddim eto wedi cael gwared ar ryfeloedd anghyfreithlon ond roedd yr hen Ieuan yn llygad ei le wrth dynnu sylw at gyd-ddibyniaeth newyddiaduriaeth a democratiaeth.
Dim ond mewn cyfundrefnau democrataidd y gall newyddiadurwyr ymarfer eu crefft mewn gwirionedd ac mae'r cyfundrefnau hynny yn ddibynnol ar lif wybodaeth o ffynonellau dibynadwy er mwyn i'r etholwyr wneud penderfyniadau ar sail ffeithiau'n hytrach na phropaganda.
Mae'r argyfwng sy'n wynebu ein newyddiaduriaeth ni hefyd yn argyfwng i'n ddemocratiaeth, felly fe fydd angen dychymyg a hyd yn oed arian cyhoeddus efallai i amddiffyn y ddwy.