Argraffu cyfrol galar am y trydydd gwaith mewn tri mis
- Cyhoeddwyd
Mae llyfr sy'n trafod galar unigolion wedi ei argraffu am y trydydd gwaith o fewn tri mis.
Cafodd Galar a Fi ei gyhoeddi gyntaf ddiwedd mis Gorffennaf ac ers hynny mae'r cyhoeddwr, Y Lolfa, yn dweud bod dros 2,000 o gopïau wedi eu gwerthu.
Dyw argraffu llyfr newydd sawl gwaith "ddim yn beth cyffredin", meddai Arwel Jones, pennaeth adran grantiau Cyngor Llyfrau Cymru.
Ychwanegodd: "Mae 'na ryw ddau neu dri yn ail argraffu tra bod o yn ffres fel petai."
"Mae o yn beth mwy cyffredin i lyfr sydd wedi bod allan am rai blynyddoedd i ail argraffu. Mae hynny yn digwydd yn rheolaidd.
"Mae rhywle o gwmpas y 30, ychydig yn llai ambell flwyddyn, ychydig yn rhagor flwyddyn arall, o lyfrau plant ac oedolion yn ail argraffu bod blwyddyn.
"Mae hynny yn rywbeth llawer mwy cyffredin na llyfr ffres fel hyn."
Fel arfer mis Tachwedd a Rhagfyr yw'r cyfnod prysuraf o ran gwerthiant llyfrau ac mae ennill gwobr uchel ei bri hefyd yn medru bod yn hwb.
"Beth sy'n rhyfeddol am hwn yw bod e wedi gwerthu cymaint mewn adeg lle does dim cymaint o brynu," meddai Garmon Gruffudd, rheolwr Y Lolfa.
"Mae hwn wedi mynd i dri argraffiad mewn adeg tawel o'r flwyddyn o ran gwerthiant."
Mae sawl person wedi cyfrannu at y gyfrol gan gynnwys yr awdures Sharon Marie Jones a gollodd ei mab Ned mewn damwain y llynedd.
Mae Nia Gwyndaf, a gollodd ei gwr, Eifion Gwynne ym mis Hydref 2016 mewn damwain car yn Sbaen, hefyd wedi cyfrannu.
Yn 2015 cafodd casgliad o brofiadau pobl oedd yn trafod salwch meddwl ei gyhoeddi, Gyrru Drwy Storom, oedd hefyd yn llwyddiant.
Yn ôl Arwel Jones prin yw'r math yma o lyfr sydd ar gael yn y Gymraeg.
"Dwi'n meddwl bod Gyrru Drwy Storom, oedd yn trafod iselder, yn rhywbeth roedd pawb yn gymharol hyderus oedd wedi gweithio yn Saesneg," meddai.
"Doedd 'na ddim rheswm iddo fo beidio gweithio yn Gymraeg.
"Ond pan roedden nhw'n cyflwyno'r syniad o drafod galar, falle nad oedd hwnnw mor gyffredin. Falle bod hwn o flaen y zeitgeist yn hynny o beth, yn torri tir newydd."
Gwerthu mewn sawl siop
Cytuno ei fod yn llenwi bwlch mae Garmon Gruffudd, ond hefyd y ffaith bod y rhai wnaeth gyfrannu i'r casgliad yn dod o bob cwr o Gymru.
Dywedodd: "Mae'r llyfr yma, mae cyfranwyr o bob man yng Nghymru bron a bod, yn y gogledd orllewin, yn ardal Aberystwyth, Ceredigion, Caerdydd.
"Mae'r gwerthiant wedi bod trwy'r siopa' i gyd wedyn ac mae hwnna wedi bod yn help mawr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2017