Penodi Sian Lewis yn brif weithredwr newydd yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Sian LewisFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Sian Lewis yn gyfrifol am 53,000 o aelodau a throsiant o dros £9m y flwyddyn fel prif weithredwr newydd yr Urdd

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi mai Sian Lewis o Gaerdydd yw eu prif weithredwr newydd.

Mae Ms Lewis ar hyn o bryd yn brif weithredwr Menter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg.

Bu'n gweithio fel swyddog datblygu i'r Urdd rhwng 1994-2003 cyn symud i'r Fenter.

Bydd yn olynu Sioned Hughes, wnaeth adael y swydd ym mis Gorffennaf lai na dwy flynedd ar ôl cael ei phenodi.

'Cyfnod cyffrous'

Wrth gyhoeddi'r newyddion mewn datganiad i'r wasg dywedodd Tudur Dylan Jones, cadeirydd Urdd Gobaith Cymru: "Mae'r Urdd yn falch iawn bod Sian Lewis yn ymuno gyda ni fel prif weithredwr.

"Mae hi wedi profi ei bod hi'n arweinydd naturiol, ac mae'r mudiad yn edrych ymlaen at gyfnod cyffrous o dan ei harweiniad."

Dywedodd Sian Lewis ei fod yn "fraint ac yn anrhydedd i gael fy mhenodi fel Prif Weithredwr yr Urdd".

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio'n agos gyda staff a gwirfoddolwyr ymroddedig y mudiad er mwyn cynnig cyfleoedd gwych drwy'r iaith Gymraeg i blant a phobl ifanc Cymru," meddai.