Cynllun i wella cysylltedd ffonau symudol

  • Cyhoeddwyd
mastiauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu er mwyn annog mwy o fuddsoddiad i rwydwaith ffonau symudol yng Nghymru.

Maen nhw hefyd am annog dyfeisgarwch mewn technolegau ffonau symudol ar draws y wlad.

Er mai cyfrifoldeb llywodraeth y DU yw cysylltedd symudol, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y pwerau sydd ganddi er mwyn gweithredu mewn modd allai wella'r gwasanaeth.

Mae gan Gymru heriau eithriadol ym maes cysylltedd ffonau symudol oherwydd y tirwedd. Mae data gan Ofcom yn awgrymu bod angen 67 o fastiau i gyrraedd miliwn o bobl.

Y ffigwr yn Lloegr yw 12 mast, 25 yng Ngogledd Iwerddon a 45 yn Yr Alban.

Ymysg y meysydd lle mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i weithredu mae:

  • Cynllunio, ac yn benodol caniatâd cynllunio ar gyfer offer telegyfathrebu;

  • Trethi - Lle mae tystiolaeth y gallai gostwng trethi annog mwy o fuddsoddiad mewn mastiau symudol;

  • Dyfeisgarwch - Bydd cwmnïau ffonau symudol a Llywodraeth Cymru'n cydweithio i ganfod cyfleoedd i ddatblygu technolegau newydd gan gynnwys 5G yng Nghymru.

'Dim ateb syml'

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James AC: "Mae'n rhaid imi fod yn glir ynghylch y ffaith mai Llywodraeth y DU ac Ofcom sydd â'r prif bwerau yn y maes hwn, ac mae'n bwysig pwysleisio nad oes un ateb syml i wella cysylltedd symudol.

"Mae topograffi Cymru yn creu sawl her, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn taro cydbwysedd rhwng y manteision economaidd lleol a fydd yn deillio o signal gwell a'r angen i ddiogelu ein tirwedd unigryw.

"Rydym eisoes yn gwella cysylltedd ar draws Cymru drwy gyflwyno Cyflymu Cymru sydd wedi darparu band eang cyflym iawn i 653,000 o safleoedd ar draws y wlad hyd yn hyn.

"Er nad oes gennym yr holl bwerau i wella cysylltedd symudol, nid yw ond yn iawn ein bod yn edrych ar yr hyn gallwn ni fel Llywodraeth Cymru ei wneud."