Cacennau Cymreig Alan Sugar
- Cyhoeddwyd
Dyw e ddim yn ddyn hawdd i'w blesio ond mae un ferch fentrus o Aberystwyth wedi creu argraff fawr ar y gŵr busnes llwyddiannus Alan Sugar.
Alana Spencer gafodd ei dewis o blith miloedd o ymgeisiwyr y llynedd ar gyfres deledu The Apprentice i weithio gyda'r miliwnydd wnaeth ei ffortiwn gyda chwmni cyfrifiaduron Amstrad.
Wedi 12 wythnos o gystadlu enillodd Alana fuddsoddiad o £250,000 yn ei busnes, Ridiculously Rich by Alana a chael cyngor cyson gan yr Arglwydd Sugar.
Gyda chyfres newydd wedi dechrau a deg mis ers i'r Arglwydd Sugar ddatgan 'You're hired' yn ystafell y bwrdd, mae Alana Spencer yn rhedeg ei busnes cacennau yng ngorllewin Cymru, ac yn dweud bod Cymru yn lle da i wneud hynny.
"Mae arna' i lot i Gymru, ac mae'n bwysig iawn i fi bod y busnes yn aros yng Nghymru. Pan ddechreues i ma's, roedd modd i fi gael grant yma, roedd 'na gymorth i gael.
"Pan wyt ti'n 17 oed ac yn cychwyn arni, alli di fod yn graff iawn mewn byd busnes, ac yn barod i weithio mor galed ag y medri di, ond mae materion ariannol uwch dy ben di, ond roedd yna help i gael allan yna i fi. A dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i gadw'r busnes yng Nghymru."
Roedd hynny flynyddoedd cyn i Alana Spencer geisio am le yn y gyfres realiti The Apprentice i ennill buddsoddiad o £250,000 yn ei busnes gan yr Arglwydd Sugar. Ond roedd busnes yn ei gwaed, meddai, ers yn oedran ifanc.
"Mae'n dipyn o obsesiwn i ddweud y gwir. Does gen i ddim awydd mawr i fod yn filiwnydd - er byddai hynny'n lyfli - ond gan nad ydw i'n academig, roedd hwn yn rhywbeth roeddwn i'n gallu ei wneud yn dda. Dyna beth ydy e i fi, rhywbeth i fy ngwneud i'n falch ohono fe.
'Yr amser iawn'
"Fe wnes i ddechre' pan o'n i'n yr ysgol yn Aberaeron. Ro'n i'n gwneud cardiau â llaw pan o'n i'n 14 oed ym mlwyddyn 9, a'u gwerthu nhw i siop leol ac i deulu a ffrindiau. Yn amlwg doedd y busnes yna ddim am fynd yn fawr iawn, ond wedyn fe sylweddolais fy mod i wrth fy modd yn coginio. Prynodd fy mam lyfr i mi ar sut i wneud siocled, fe ddysgais fy hunan sut i'w wneud e, a dechrau gwerthu siocledi i delis a marchnadoedd.
"Wnes i ddim yn rhy dda yn fy mlwyddyn gynta' o Lefel A, felly penderfynais i fynd amdani'n llawn amser, dechreuais bobi cacennau yn lle 'neud siocled, achos oedd mwy o alw amdanyn nhw, ac mae popeth wedi mynd o fan 'na."
Fe geisiodd Alana Spencer am le ar y Junior Apprentice pan oedd hi'n 16 oed, ond er na chafodd ei dewis y tro hwnnw, fe roddodd hyder iddi. Pan oedd hi'n 23 oed ac yn ceisio am The Apprentice, "roedd hi'r amser iawn", meddai.
Cafodd Alana Spencer ei geni yn Leamington Spa, ac ar ôl treulio rhai blynyddoedd gyda'i theulu yn Loughborough, fe symudon nhw i Aberystwyth pan oedd hi'n 13 oed, a dyna lle y mae hi'n byw o hyd.
"Mae cegin ddatblygu'r busnes yn dal i fod ar ochr tŷ fy rhieni, a dyna lle rwy'n meddwl am ac yn dylunio cynnyrch newydd 50% o fy amser. Mae gyda ni le sy'n pobi ein holl gynnyrch yn ne Cymru," meddai.
Er ei bod yn rhedeg busnes llwyddiannus yn gwerthu cacennau mewn marchnadoedd a gwyliau bwyd ar draws y wlad cyn mentro ar The Apprentice, roedd cael y cyfle i weithio gyda'r gŵr busnes a'i dîm yn "beth enfawr" eglurodd.
"Rwy'n siarad â'r tîm bob dydd, nhw sy'n edrych ar ôl y cyfrifon. Mae Lord Sugar (a dwi'n dal i'w alw fe yn Lord Sugar, dyna ei reol!) yn dweud ar y rhaglen y bydd ei dîm e'n cymryd gofal o'r ochr honno o'r fusnes, a do'n i ddim cweit yn credu hynny fy hunan, ond mae yn hollol wir. Maen nhw'n gwneud hynny ar fy rhan i, sy'n grêt.
"Cyn mynd ar The Apprentice, ro'n i'n pobi cacennau ac yn eu gwerthu nhw mewn gwyliau bwyd a sioeau gwledig ar y penwythnosau. Ro'n i'n gyfforddus ac yn gwneud cyflog dda i fi a fy mhartner. Ond roedd hi'n anodd i wybod beth fyddai'r cam nesa', ac mae Lord Sugar a'i dîm wedi fy helpu lot gyda hynna.
"Erbyn hyn, rwy'n gweithio gyda 45 o bobl hunangyflogedig sydd yn lysgenhadon i'r busnes. Maen nhw'n prynu ein cynnyrch wrthon ni ac yn eu gwerthu nhw mewn marchnadoedd a gwyliau ar draws y wlad.
"Mae fy musnes i'n tyfu, ond hefyd mae 45 o fusnesau eraill yn tyfu yn eu hardaloedd lleol, mae'n gyffrous iawn."
"Mae'n fwy fel Big Brother"
Er bod Alana wrth ei bodd yn gwylio'r gyfres hon o The Apprentice, ac yn gwerthfawrogi'r profiad a'r cyfle, roedd yn brofiad dwys meddai, ac mae'n falch cael gwylio o'r soffa y tro hwn yn hytrach na chymryd rhan.
"Achos fy mod i wedi bod trwy hyn y llynedd dwi'n teimlo'n ddwfn dros y cystadleuwyr, achos fedri di eu gweld nhw'n 'neud yr un camgymeriadau ag y gwnaethon ni'r llynedd. Mae'r amser i wneud y tasgau mor brin a'r pwysau mor uchel, mae'r cystadleuwyr eraill i gyd yn brwydro i gael eu hadnabod, yn enwedig yn yr wythnosau cynta' fel hyn.
"Ti ddim yn cael mynd adre, a'r unig gyswllt wyt ti'n cael gyda dy deulu yw un sgwrs ffôn ddeg munud yr wythnos. Ti yna am y cyfnod i gyd ac yn byw mewn ystafell gyda phedwar person arall. Y lleia' o bobl sy' ar ôl, y lleia' ti'n gorfod rhannu. Mae'n intense iawn.
"Mae The Apprentice yn fwy fel Big Brother, lle mae'r cystadleuwyr gyda ti trwy'r amser, yn ffrindiau ac yn elynion ar yr un pryd. Yn wahanol i gystadleuwyr y Great British Bake Off sy'n mynd adre, ac yn dod nôl ar y penwythnosau i wneud y tasgau.
"Mae'n anodd credu fy mod wedi ennill. O'r holl gystadleuwyr, fi oedd yr un oedd yn amau fy hun fwyaf. Gyda phob wythnos do'n i methu credu fy mod i'n mynd trwyddo' i'r wythnos wedyn, felly roedd clywed Lord Sugar yn dweud 'You're hired' ar y diwedd yn hollol anghredadwy!
"Y wobr fwya' sy' wedi dod o hyn i gyd ydy'r cynnydd yn fy hunan hyder. Mae'r arian a'r cyngor yn anhygoel, ond mae cael y sicrwydd yna yndda' i fel person yn amhrisiadwy. Os ydy Lord Sugar yn credu alla' i fynd allan yna a'i wneud e, yna mae'n well i fi fynd allan yna a'i wneud e!"
Hefyd o ddiddordeb: