Galw am roi tywelion hylendid i ferched ysgol am ddim

  • Cyhoeddwyd
tywelion hylendid

Mae galwad i roi tywelion hylendid am ddim i ddisgyblion ysgolion uwchradd yn Rhondda Cynon Taf, oherwydd bod rhai merched yn methu eu fforddio.

Daw'r alwad wedi i arolwg gan elusen Plan International UK ddarganfod bod un ymhob 10 o ferched yn cael trafferth fforddio tywelion mislif.

Mae'r Cynghorydd Elyn Stephens wedi dweud dylai tywelion gael eu dosbarthu am ddim i fynd i'r afael a'r broblem.

Mae grŵp gafodd ei sefydlu yn yr haf yn ystyried yr argymhellion.

'Tabŵ'

Dywedodd Ms Stephens, sy'n un o gynghorwyr ieuengaf yr awdurdod lleol: "Ers siarad gyda phobl sydd dal yn yr ysgol, dwi wedi sylwi nad yw'r sefyllfa wedi newid dim i pan oeddwn i yno saith mlynedd yn ôl.

"Gan fod y pwnc wedi bod yn dabŵ ers sawl blwyddyn, does neb yn ei drafod mewn sefydliadau allai wneud gwahaniaeth."

Fe wnaeth y cynghorydd, sy'n aelod o Blaid Cymru, argymell ym mis Gorffennaf y dylai ysgolion gynnig tywelion mislif am ddim i ddisgyblion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o phob 10 merch methu fforddio i brynu tywelion hylendid

Bellach mae adroddiad i'r sefyllfa ar hyd y rhanbarth yn cael ei wneud, gan gynnwys holiadur ar gyfer disgyblion mewn ysgolion uwchradd.

Mae grŵp ymgyrchu Freedom4Girls hefyd wedi bod yn ceisio codi ymwybyddiaeth gan ddweud bod "tlodi mislif" yn broblem fawr mewn ysgolion.

"Mae nifer o blant yn cadw i ffwrdd o'r ysgol oherwydd mislif," meddai Charan Kaur o'r elusen ar raglen Good Morning Wales.

"Mae'n gyfnod ofnus, yn enwedig pan rydych yn eich arddegau, mae'n gallu gwneud i berson deimlo'n bryderus ac mae'n gallu effeithio ar eu lles a diogelwch.

"Mae'n beth ofnadwy i deimlo fel hyn ac i beidio bod eisiau mynd i'r ysgol oherwydd mislif."

Yn ôl Plan International UK:

  • Mae 10% yn methu fforddio tywelion hylendid;

  • Mae 15% yn ei gweld hi'n anodd fforddio tywelion hylendid;

  • Mae 14% yn gofyn am fenthyg tywel hylendid gan ffrind o ganlyniad i broblemau ariannol;

  • 19% wedi newid i ddefnyddio tywelion hylendid llai addas o ganlyniad i gost.

(Fe gafodd 1,000 o bobl rhwng 14-21 oed eu holi ar lein rhwng 22-24 Awst 2014 gan Opinium Research ar ran Plan International UK)

Wrth ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru bod rhai awdurdodau lleol yn edrych ar ffyrdd y gallai'r broblem effeithio ar addysg.

"Fe fyddwn yn parhau i weithio gyda gwasanaethau addysg ac fe fyddwn yn ystyried unrhyw dystiolaeth pan fydd yn dod i'r amlwg," medd llefarydd.

"Dylai ysgolion yng Nghymru gael trefniadau i gefnogi dysgwyr i sicrhau eu lles.

"Dylai pob merch gael ei hatgoffa yn aml fod tywelion hylendid ar gael gan aelodau staff benywaidd os oes angen."