Gwahardd dau o aelodau Plaid Cymru yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
mari arthurFfynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Mari Arthur yn drydydd yn yr etholiad cyffredinol

Mae dau aelod o gangen Plaid Cymru yn Llanelli wedi eu gwahardd.

Roedd Gwyn Hopkins a Meilyr Hughes ymhlith 26 o aelodau lleol a gyhuddodd ymgeisydd lleol y blaid yn yr etholiad cyffredinol, Mari Arthur, o dorri nifer o reolau.

Roedd hynny'n cynnwys gwrthod rhannu allweddi i swyddfa'r etholaeth.

Daeth Ms Arthur yn ymgeisydd ar ôl i Blaid Cymru ddyfarnu nad oedd enillydd pleidlais ymysg yr aelodaeth yn gymwys i sefyll mewn sedd darged.

Mae BBC Cymru wedi gwneud cais i Ms Arthur am sylw.

Ymchwiliad lefel uchel

Bu un o'r aelodau sydd wedi eu hatal, Mr Hopkins, yn gynghorydd Plaid Cymru am 28 mlynedd.

Enillodd Sean Rees y bleidlais leol ar gyfer enwebiad Plaid ym mis Ebrill, ac mae o ymhlith aelodau Llanelli sydd wedi gofyn am "ymchwiliad lefel uchel" i ymddygiad Ms Arthur.

Ers yr etholiad cyffredinol, pan ddaeth Ms Arthur yn drydydd, dywedodd yr aelodau fod Mr Rees, sydd hefyd yn swyddog y wasg yn lleol, wedi'i rwystro o gyfrif Twitter y blaid yn yr etholaeth a'i fod wedi gorfod cynnal rhai o'i ddyletswyddau o lyfrgell leol.

Disgrifiad o’r llun,

Sean Rees yn siarad yng nghynhadledd Plaid Cymru y penwythnos diwethaf

Maen nhw hefyd yn honni bod grŵp ymgyrchu Ms Arthur wedi creu "grŵp cyfrinachol" ar wefan Facebook yn galw am "getting rid of the dead wood" wrth gyfeirio at aelodau o bwyllgor etholaeth Llanelli.

Mae'r 26 aelod wedi dweud eu bod yn "bryderus iawn am y sefyllfa bresennol yn Llanelli a gofynnwn i chi ymchwilio'n llawn i holl gamau anghyfansoddiadol gan yr Ysgrifennydd Etholaeth, Ms Arthur."

Pryderon am ymgeisydd arall

Mae pryderon hefyd wedi codi am ymgeisydd y Blaid Werdd, Gwynfor Edwards, yn ymgyrch Ms Arthur.

Er ei fod yn sefyll dros y Gwyrddion, roedd Mr Edwards hefyd yn rhoi cymorth i Mari Arthur yn ystod yr etholiad cyffredinol. Flwyddyn ynghynt roedd Mr Edwards yn gweithio i ymgyrch y Blaid Lafur yn etholiadau'r Cynulliad yn y dref.

Er ei fod ar y gofrestr ymgeiswyr Plaid Cymru, mae gohebiaeth a welwyd gan BBC Cymru yn awgrymu bod gan rai o fewn y blaid amheuon am allu Sean Rees, er gwaetha'r ffaith fod un Aelod Cynulliad wedi brwydro ei achos.

Mewn e-bost i Bethan Jenkins AC, ysgrifennodd cyn-bennaeth y wasg Plaid Cymru, Helen Bradley, "nad yw profiad o wneud gwaith y tu ôl i'r llenni'r un peth â chael profiad o fod yn ymgeisydd a gallu ymdopi â'r gofynion o ran siarad cyhoeddus a delio gyda'r cyfryngau".

Dim cymwysterau proffesiynol

Mewn ymateb i gŵyn gan aelod lleol ynghylch enwebiad Mari Arthur, dywedodd cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones nad oedd gan Sean Rees "gymwysterau proffesiynol" cyn belled ag y gwyddai ac nad oedd ganddo unrhyw brofiad ac eithrio fel trefnydd yn Llanelli.

Cafodd Mr Rees gyfle i gynnig am yr enwebiad yng Ngorllewin Abertawe neu'r Gŵyr. Dywedodd wrth BBC Cymru ei fod "bob amser wedi gweithio er budd ein plaid yn lleol ac yn genedlaethol".

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru: "Mae rhai unigolion, yn ddealladwy, yn siomedig gyda chanlyniad y dewis ac mae hyn yn digwydd ym mhob plaid. Mae'r blaid yn hyderus y bydd y materion hyn yn cael eu datrys yn ôl ein gweithdrefnau arferol."

Deallir y bydd ymdrech o'r newydd gan Blaid Cymru i geisio cael y ddwy garfan i gymodi.