Bale yng ngharfan Cymru i wynebu Ffrainc a Panama

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Rex Features

Mae Chris Coleman wedi cyhoeddi carfan bêl-droed Cymru ar gyfer y ddwy gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc a Panama yn ddiweddarach yn y mis.

Mae Gareth Bale wedi ei gynnwys er ei fod yn dal i ddiodde' o anaf i'w goes, ac mae Emyr Huws wedi gwella o'i anaf yntau ac wedi'i gynnwys hefyd.

Bydd Cymru'n herio Ffrainc ym Mharis ar 10 Tachwedd cyn croesawu Panama i Gaerdydd ar 14 Tachwedd.

Fe wnaeth Chris Coleman hefyd ddweud ei fod yn trafod y posibilrwydd o ymestyn ei gytundeb fel rheolwr Cymru.

'Dim syniad'

Dywedodd Coleman fod y trafodaethau hynny eisoes wedi cael eu cynnal, ond nad oedd ganddo "syniad" beth fyddai canlyniad hynny eto.

"Bydd yn rhaid i fi edrych ar bethau a meddwl: 'Allai fynd â phethau ymlaen, ydi'r strwythurau a'r cyfleusterau yna i ni symud pethau ymlaen?'," meddai.

"Mae angen i bopeth fod yn iawn er mwyn i ni wneud hynny."

Ychwanegodd: "Mae'n siŵr y bydd dwy neu dair sgwrs arall cyn i ni gyrraedd yr 'ie' neu 'na' o'r naill ochr... dwi ddim yn meddwl y bydd hynny'n digwydd nes ar ôl y gemau hyn."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Chris Coleman na fyddai penderfyniad ar ei ddyfodol fel rheolwr yn debygol o gael ei wneud nes ar ôl y gemau nesaf

Mae'r garfan i wynebu Ffrainc a Panama yn cynnwys pum chwaraewr - Chris Maxwell, Ethan Ampadu, Tom Lockyer, David Brooks a Marley Watkins - sydd heb ennill cap dros Gymru eto.

Awgrymodd y rheolwr y byddai rhai o'r chwaraewyr hynny, yn ogystal â sêr ifanc eraill fel Ben Woodburn, yn cael eu cyfle rywbryd yn ystod y ddwy gêm.

"Byddai'n bendant yn dewis tîm gwahanol yn yr ail gêm i'r un fyddai wedi dewis yn y gêm gyntaf," meddai Coleman.

"Mae gen i dal gynllun ar gyfer Cymru a'r dyfodol, ac mae gen i dal ddyletswydd i sicrhau yn symud 'mlaen ein bod ni'n gwneud y gorau allwn ni gyda beth sydd gennym ni.

"Mae hynny'n golygu fod gen i gyfle yn y gemau yma i roi mwy o brofiad i'r chwaraewyr sydd ddim â chymaint o brofiad o bêl-droed rhyngwladol."

Y garfan yn llawn:

Golwyr: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Lerpwl), Chris Maxwell (Preston North End);

Amddiffynwyr: Ashley Williams (Everton), James Chester (Aston Villa), Ben Davies (Spurs), Ethan Ampadu (Chelsea), Chris Gunter (Reading), Neil Taylor (Aston Villa), Tom Lockyer (Bristol Rovers);

Canol Cae: Aaron Ramsey (Arsenal), Joe Allen (Stoke City), Andy King (Leicester City), Joe Ledley (Derby County), Dave Edwards (Wolves), Emyr Huws (Ipswich), Jonny Williams (Crystal Palace, ar fenthyg gyda Sunderland);

Ymosod: Tom Lawrence (Derby County), David Brooks (Sheffield United), Ben Woodburn (Lerpwl), Sam Vokes (Burnley), Hal Robson-Kanu (West Brom), Gareth Bale (Real Madrid), Marley Watkins (Norwich City).