Colli geirfa byd natur?

  • Cyhoeddwyd
aaFfynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Caryl Lewis a'i merch Gwenno

Mae 'na bryder nad ydy plant Cymru y dyddiau yma yn dysgu'r geiriau Cymraeg am ryfeddodau byd natur.

Ymdrech i unioni'r cam hwnnw sydd wedi ysgogi'r awdur poblogaidd Caryl Lewis i sgwennu Merch y Mêl, llyfr newydd i blant rhwng 4-8 oed.

"Fe ysgrifennais i'r gyfrol yn rhannol er mwyn dysgu plant am dymhorau ac enwau'r byd natur sydd o'n cwmpas a geiriau fel bysedd y cŵn, clychau'r gog, cynffonnau ŵyn bach ac ati," meddai Caryl.

"Dyw plant ddim yn cael dysgu enwau blodau a choed ac ati bellach fel erstalwm."

Merch fferm yw Caryl ac mae dylanwad byd amaeth yn ddwfn yn ei chyfrolau i oedolion - Martha, Jac a Sianco ac Y Bwthyn, dwy gyfrol ddaeth a llwyddiant iddi hi yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn.

Mae ei chefndir ar y buarth yn bwysig yn Merch y Mêl hefyd: "Cefais fy ysbrydoli hefyd gan fy mhrofiad o gadw gwenyn ar ein fferm yng Ngoginan ger Aberystwyth.

"Bellach mae fy merch, Gwenno, yn dysgu am gadw gwenyn hefyd yn union fel Elsi yn y stori."

Mae'r gyfrol yn llawn o ddarluniau trawiadol gan Valériane Leblond, sydd hefyd yn meddwl ei bod hi'n "bwysig iawn bod yn ymwybodol o'r byd sydd o'n cwmpas, a dyle plant ac oedolion wybod a deall mwy am natur a'i berthynas gyda phopeth".

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Merch y Mêl gan Caryl Lewis a Valériane Leblond (Y Lolfa) ar gael nawr.